Newid hinsawdd a newid ecolegol: Newid ymddygiad er cynaliadwyedd
Rhagarweiniad
Yn 2019 bu i ni ddatgan argyfwng newid hinsawdd a newid ecolegol gan bennu targed i ddod yn Gyngor Carbon Niwtral Sero Net erbyn 2030. Bydd cymryd y cam hwn yn creu amgylchedd iachach, yn lleihau costau ynni preswylwyr a busnesau, yn rhoi hwb i wydnwch busnesau a chymunedau ac yn gwella mynediad at natur – oll gan gefnogi swyddi lleol.
Bydd cyflawni’r buddion hyn i breswylwyr a busnesau yn gofyn i staff, gwasanaethau a phreswylwyr newid eu harferion, wrth i ni orfod gwneud ein penderfyniadau dyddiol yn wahanol a newid y ffordd rydym ni’n gwneud pethau ar bob lefel o’r gymdeithas. Bydd hyn yn cynnwys sut caiff gwasanaethau eu darparu, sut mae staff yn teithio ac yn defnyddio adnoddau a sut mae preswylwyr yn ymgysylltu ag ynni, cludiant, gwastraff a natur yn eu cymunedau.
Mae’n swnio’n lot, ond mae technegau newid ymddygiad wedi’u defnyddio’n llwyddiannus ers sawl blwyddyn ym maes iechyd y cyhoedd, drwy ymgyrchoedd fel rhoi’r gorau i ysmygu a gwneud mwy o ymarfer corff. Mae technegau newid ymddygiad yn ceisio cael gwared ar rwystrau er mwyn i bobl fod yn iachach, yn hapusach ac yn fwy gwydn.
Gall newid ymddygiad fod yn anodd iawn wrth geisio annog pobl i wneud dewisiadau cynaliadwy, gan nad yw manteision y rhain bob tro yn amlwg ar y dechrau.
Model COM-B ar gyfer Newid Ymddygiad
Argymhellir bod awdurdodau lleol yn defnyddio model newid ymddygiad COM-B.

Mae model COM-B (gwefan allanol) yn ceisio canfod y rhwystrau corfforol a seicolegol y mae pobl yn eu hwynebu wrth newid eu hymddygiad a chael gwared arnyn nhw. Drwy ddileu’r rhain mae gan bobl gyfle a gallu, sydd yn eu cymell i newid eu hymddygiad. Mae cymhelliant adfyfyriol yn golygu bod rhywun yn gorfod meddwl am yr ymddygiad cyn gallu ei wneud, tra bod cymhelliant awtomatig yn digwydd heb unrhyw broses feddwl.
Prosiectau Newid Ymddygiad
Defnyddio ein Dylanwad
Dim ond 3 i 5% o’r allyriadau carbon y mae gan awdurdodau lleol reolaeth drostynt, ond mae ganddyn nhw ddylanwad dros oddeutu 35% o’r allyriadau lleol.
- Mae’r tîm wedi creu gweithgareddau ymgysylltu er mwyn iddyn nhw allu mynd i ddigwyddiadau cymunedol cyhoeddus a digwyddiadau staff.
- Mae adnoddau wedi’u cynhyrchu ar gyfer ysgolion – i’w defnyddio mewn gwersi, gwasanaethau neu weithgareddau eraill.
- Mae ein tîm Teithio Llesol n gweithio gyda pheirianwyr, ysgolion a chymunedau i gefnogi teithio iachach i’r ac o’r ysgol.
Hyfforddiant Staff
Mae hyfforddi staff mewn llythrennedd carbon ac adfer natur yn agwedd bwysig ar newid ymddygiad. Mae’n sicrhau bod gan staff fynediad at yr un wybodaeth ac yn gallu defnyddio’r wybodaeth honno yn eu gwaith bob dydd.
- Mae bob aelod o’r Cabinet a’r Tîm Arwain Strategol wedi cael hyfforddiant Llythrennedd Carbon drwy’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus.
- Mae gan bob aelod o staff fynediad at fodiwl e-ddysgu ar leihau carbon ac adfer natur.
Teithio i'r Gwaith
Mae gennym ni darged i ostwng allyriadau cymudo staff 20% cyn 2030. Caiff gwybodaeth am ein cynnydd ei hanfon i Lywodraeth Cymru yn flynyddol.
- Rydym ni wedi cynnal arolwg mawr gyda staff yr awdurdod, i ddeall sut maen nhw’n teithio i’r gwaith a’r rhwystrau sydd yn eu hatal rhag defnyddio dulliau teithio cynaliadwy.
- Bydd y wybodaeth o’r arolwg yn cael ei defnyddio i wneud cynlluniau teithio i’r gwaith penodol i wasanaethau.
Gall teithio cynaliadwy wella iechyd corfforol staff a gwella iechyd y sir, drwy leihau allyriadau o gerbydau.
Cystadlaethau i Ysgolion
Cystadleuaeth Cardiau Post o’r Dyfodol
Bu i ni ofyn i bobl ifanc ddychmygu eu dyfodol, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol. Bu iddyn nhw roi gweledigaethau cryf iawn, llawer ohonyn nhw’n obeithiol ond hefyd yn pryderu ynghylch pethau, gyda negeseuon am yr angen i newid pethau rŵan i sicrhau dyfodol gwell.
Mae pobl ifanc yn aml iawn yn teimlo nad yw eu barn yn cael ei chlywed gan y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau, ond roedd y prosiect hwn yn gyfle iddyn nhw ddweud eu dweud.
Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Dôl Blodau Gwyllt
Roedd ein cystadleuaeth ffotograffiaeth dôl blodau gwyllt yn annog pobl ifanc i dynnu llun o ddôl blodau gwyllt y Cyngor, dôl ysgol neu warchodfa natur.
Mae bod yng nghanol natur yn helpu ein hiechyd meddwl a’n hiechyd corfforol, ac yn darparu amgylchedd dysgu oddi wrth yr ystafell ddosbarth.