Rhoddwyd caniatâd cynllunio i Gyngor Sir Ddinbych wneud gwaith i ailadeiladu amddiffynfeydd arfordirol yng nghanol y Rhyl a Phrestatyn.
Bydd y cynlluniau amddiffyn yr arfordir yn rhoi amddiffyniad digonol i’r ddwy dref rhag codiad yn lefel y môr a stormydd a achosir gan newid hinsawdd.
Ym misoedd Gorffennaf ac Awst 2021, gwahoddodd y Cyngor breswylwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad er mwyn deall eu blaenoriaethau ar gyfer y cynlluniau, a’u pryderon posibl yn eu cylch. Coladwyd yr adborth, ac fe’i defnyddir drwy gydol datblygiad y prosiectau.
Mae Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl yn ymdrin â phellter o oddeutu 2km o Splash Point i ardal Parc Drifft, ac mae’n rhan o brosiect ehangach y Cyngor ar gyfer Adfywio’r Rhyl. Bydd Cynllun Canol y Rhyl yn golygu gosod deunyddiau i atal erydu ac atgyweiriadau concrid i’r morgloddiau presennol, wal gynnal goncrid i amsugno ynni o’r tonnau a darparu mynediad i’r traeth, wal newydd i amddiffyn rhag llifogydd, yn ogystal â chodi a lledu’r promenâd.
Mae cynllun amddiffyn arfordir Canol Prestatyn yn canolbwyntio ar y rhan o’r arfordir sy’n peri’r pryder mwyaf, gerllaw Clwb Golff y Rhyl, a fydd yn amddiffyn eiddo ym Mhrestatyn. Bydd hyn yn golygu adeiladu arglawdd pridd wedi ei osod y tu ôl i’r amddiffynfeydd sydd yn y blaen, gan ddilyn ffin Clwb Golff y Rhyl. Golygai hyn y byddai llifddwr sy’n dod dros yr amddiffynfeydd mewn storm yn aros ar y cwrs golff hyd nes y byddai modd iddo ollwng yn ôl i’r môr.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch iawn ein bod gam yn nes at gael ymgymryd â’r gwaith pwysig hwn, sy’n hanfodol ar gyfer amddiffyn ein trefi. Heb wella’r amddiffynfeydd môr mae’r perygl o lifogydd yn effeithio ar gartrefi a busnesau yn y Rhyl a Phrestatyn yn debygol o waethygu.”
“Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn addasu ein trefi’n briodol ar gyfer y dyfodol, fel eu bod wedi eu hamddiffyn oddi wrth yr effeithiau negyddol a fydd yn dod yn sgil cynhesu byd-eang.”
“Amddiffyn y cyhoedd a busnesau yw prif flaenoriaeth y Cyngor; mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu rŵan cyn ei bod yn rhy hwyr.”
I ganfod mwy ynglŷn â Chynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/amddifyn-yr-arfordir/canol-y-rhyl/ynglyn.aspx. I ganfod mwy ynglŷn â Chynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/amddifyn-yr-arfordir/canol-prestatyn/ynglyn.aspx.