Ynglŷn â Chynllun Amddiffyn Arfordirol Canol Prestatyn

Ewch yn syth i'r:

Trosolwg

Mae amddiffynfeydd ar hyd glan y môr yn diogelu tref Prestatyn yn Sir Ddinbych rhag llifogydd o’r môr.

Wrth i'r amddiffynfeydd hyn heneiddio mae eu cyflwr yn dirywio ac nid ydynt mwyach yn diogelu'r dref yn ddigon da. Dros yr hanner can mlynedd nesaf bydd newid yn yr hinsawdd yn codi lefel y môr ac achosi stormydd mwy grymus, gan greu tonnau mawr a fyddai'n torri dros yr amddiffynfeydd yn amlach. 

Heb wella'r amddiffynfeydd mae’r perygl o lifogydd yn effeithio ar gartrefi a busnesau ym Mhrestatyn yn debygol o waethygu yn y dyfodol.

Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn: Cynllun lleoliad

Map risg llifogydd

Mae'r map hwn yn dangos maint y llifogydd posibl yn 2038 ac yn tynnu sylw at y risg llifogydd i eiddo os na fydd gwelliannau amddiffyn yr arfordir yn digwydd.

Ynglŷn â'r cynllun

Mae cynllun amddiffyn Canol Prestatyn yn canolbwyntio ar y rhan o'r arfordir sy'n peri'r pryder mwyaf, gerllaw Clwb Golff y Rhyl:

Cynllun Amddiffyn arfordirol Canol Prestatyn: Lleoliad y safle

Lawrlwythwch: Map lleoliad y safle (JPEG, 1MB)

Mae rhai o'r amddiffynfeydd sy’n diogelu Prestatyn rhag llifogydd o'r môr yn heneiddio a'u cyflwr yn dirywio, sy'n creu perygl y gallai'r tonnau eu herydu a'u tanseilio a pheri iddynt fethu yn y pen draw. Yn ogystal â hyn, bydd newid yn yr hinsawdd yn codi lefel y môr ac achosi stormydd mwy grymus, gan greu tonnau mawr a fyddai'n torri dros yr amddiffynfeydd yn amlach.

Heb wella'r amddiffynfeydd mae’r perygl o lifogydd yn effeithio ar gartrefi a busnesau ym Mhrestatyn yn debygol o waethygu yn y dyfodol.

Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn: Cynllun lleoliad

  • Mae'r amddiffynfeydd ar y rhan hon o'r arfordir oddeutu 70 oed ac mewn cyflwr arbennig o wael. Yn gyffredinol, dylunnir amddiffynfeydd arfordirol i bara oddeutu can mlynedd, ac felly mae'n debygol iawn y daw'r tonnau drostynt oni bai bod gwaith sylweddol yn cael ei gyflawni yn y 30 mlynedd nesaf.
  • Pe byddai’r amddiffynfeydd presennol yn methu yn y fan hon, byddai’r perygl o lifogydd mewn dros 2,000 o adeiladau yn ardal Prestatyn yn cynyddu'n sylweddol. Oherwydd y tir isel y tu ôl i'r amddiffynfeydd gallai unrhyw ddŵr llifogydd ledaenu dros ardal eang.

Y dewisiadau

Ystyriwyd amrywiaeth helaeth o ddewisiadau ar gyfer lleihau'r perygl o lifogydd. Gellir rhoi'r rhain mewn dau gategori:

Dewisiadau tarddiad

  • Y syniad: Rhwystro dŵr llifogydd rhag dod dros reng flaen yr amddiffynfeydd. Dal y môr yn ôl.
  • Enghreifftiau: Atgyflenwi'r traeth, morglawdd, waliau môr.

Dewisiadau effaith

  • Y syniad: Lleihau effaith y dŵr sy’n dod dros y wal trwy ei atal rhag cyrraedd pobl, eiddo ac isadeiledd. Rheoli dŵr llifogydd os yw’n dod dros yr amddiffynfeydd.
  • Enghreifftiau: Waliau wedi’u gosod yn ôl, argloddiau, cadernid eiddo rhag llifogydd.

Cynhaliwyd arfarniad i benderfynu pa ddewis fyddai orau. Dyma’r dewisiadau gorau ymhob categori:

Dewis tarddiad

  • Datrysiad: Morglawdd a wal gynnal o feini amddiffyn newydd (yn debyg i gynllun Amddiffyn yr Arfordir Dwyrain y Rhyl).
  • Cost debygol: £50 miliwn

Dewis effaith

  • Datrysiad: Arglawdd wedi'i osod yn ôl o reng flaen yr amddiffynfeydd (ar hyd ffin y clwb golff) (Pe byddai storm yn peri i’r tonnau dorri dros yr amddiffynfeydd byddai’r dŵr llifogydd yn aros ar y cwrs golff hyd nes y byddai modd iddo ollwng yn ôl i’r môr.)
  • Cost debygol: £25 miliwn

Y dewis a ffefrir

Arfarnwyd y ddau ddewis yn ôl eu costau, a hefyd eu heffeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol, gan gynnwys hamdden a thwristiaeth, busnesau lleol, bioamrywiaeth, effaith gweledol, treftadaeth ac ôl troed carbon.

Mae’r ‘Dewis Tarddiad’ yn darparu buddion hamdden a thwristiaeth ond am gost llawer uwch, a byddai mwy o effaith negyddol ar yr amgylchedd gan gynnwys allyriadau carbon uwch sy’n gysylltiedig â’r gwaith adeiladu a chau’r promenâd yn llwyr gyda mynediad cyfyngedig i’r traeth yn y lleoliad cyfagos am hyd cyfan y gwaith. Ni ellir cyfiawnhau’r dewis hwn.

Mae'r 'dewis effaith' o godi arglawdd tir yn ddewis gwell.

Mae adeiladu arglawdd yn ffordd sy’n effeithiol o ran cost o ddiogelu cartrefi a busnesau rhag llifogydd wrth leihau'r effaith ar yr amgylchedd.

Ar y dudalen Oriel ceir delweddau cyfrifiadurol o’r hyn a gynigir. Y rhain yw’r delweddau diweddaraf o amryw wahanol safbwyntiau i ddangos y cynllun sydd wedi’i ddatblygu.

Cynnydd hyd yma

Mae adroddiadau cynnydd ar gael nawr yn newyddlen Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Canol Prestatyn.

Rhagfyr 2022

Mae cyllid wedi'i roi.

Tachwedd 2022

Ar 11 Tachwedd 2022, cynhaliwyd ail gyfarfod cyhoeddus yng Nghlwb Golff y Rhyl. Y bwriad oedd atgoffa preswylwyr am gynlluniau arfaethedig a rhoi cyfle iddynt ofyn unrhyw gwestiynau.

Gorffennaf 2022

Cymeradwywyd caniatâd cynllunio ar gyfer y cynllun yng Ngorffennaf 2022.

Cafodd y cais cynllunio ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych ac mae nawr ar gael i’w weld ar-lein. Rhif cyfeirnod y cais cynllunio yw 45/2021/1248.

Rhagfyr 2021

Cynhaliwyd digwyddiad holi ac ateb ar 13 Rhagfyr yng Nghlwb Golff y Rhyl i drigolion a budd-ddeiliaid ynglŷn â’r cynllun cyn cyflwyno’r cais cynllunio.

Cyflwynwyd y cais cynllunio i Gyngor Sir Ddinbych ar 16 Rhagfyr, ar ôl ei addasu (lle bo modd) ar sail yr ymatebion yn ystod cyfnod yr Ymgynghoriad Cyn Cynllunio.

Hydref a Thachwedd 2021

Aeth y cynllun i'w gyfnod ymgynghoriad cyn ymgeisio 28 diwrnod yn unol ag Atodlen 1B - Erthygl 2C ac Atodlen 1C - Erthygl 2D Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygiad) (Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd).

O’r herwydd, bu’n bosibl i’r cyhoedd weld y cais cynllunio a rhoi sylwadau arno cyn iddo gael ei gyflwyno ar gyfer y cynllun. Bydd y sylwadau hyn yn cael eu hystyried yn y cynllun terfynol cyn cyflwyno’r cais cynllunio’n ffurfiol. Mae’r sylwadau hyn wedi cael eu hystyried yn y cynllun terfynol er mwyn cyflwyno’r cais cynllunio’n ffurfiol.

Gorffennaf 2021

Mae Balfour Beatty wedi datblygu’r fethodoleg arfaethedig ar gyfer adeiladu’r cynllun.

Ionawr 2021 - Gorffennaf 2021

Mae JBA Consulting wedi bod yn datblygu’r dyluniad manwl ar gyfer y cynllun er mwyn gallu penderfynu yn derfynol ar fanylion fel union leoliad, uchder a lled yr arglawdd arfaethedig.

Mae asesiadau ac arolygon amgylcheddol pellach hefyd wedi eu cyflawni.

Rhag 2020

  • Ymgynghori ag adran gynllunio Cyngor Sir Ddinbych ynglŷn â’r asesiadau amgylcheddol a fydd yn ofynnol eu cyflwyno â chais cynllunio yn y dyfodol.
  • Cynnal archwiliadau amgylcheddol, archeolegol a geodechnegol yng Nghlwb Golff y Rhyl.

Awst 2020

Penodi Ymgynghorwyr JBA i gwblhau dyluniad manwl y cynllun ac asesu’r effaith gymdeithasol ac amgylcheddol.

Ionawr 2020

Llywodraeth Cymru’n cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol. Wedi hyn mae Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud cais am fwy o gyllid i ddatblygu’r dewis a ffefrir a chymeradwyir y cais hwnnw.

Mai 2019

Cwblhau Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y cynllun, gan gynnwys asesiad o’r perygl o lifogydd ac erydiad, ac argymhelliad ynghylch y dewis gorau.

Gorffennaf 2018

Cyngor Sir Ddinbych yn penodi Balfour Beatty i lunio achos busnes ar gyfer y cynllun, fel y gellid ceisio am gyllid o Raglen Rheoli Risgiau Arfordirol Llywodraeth Cymru.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd gwaith adeiladu'n dechrau ar ddechrau 2023 ac fe fydd yn cymryd tua 3 i 3 blynedd a hanner.

Os oes gennych sylwadau’n ymwneud â’r cais cynllunio, dylid eu cyfeirio at Adran Gynllunio Cyngor Sir Ddinbych.

Cyfnodau Adeiladu

Mae tir meddal o dan y safle, sy’n golygu bod angen gwneud y gwaith adeiladu mewn camau, a fydd yn cynnwys cyfnodau segur o tua 9 mis rhwng y camau adeiladu. Bydd sut mae’r tir yn setlo’n cael ei fonitro yn ystod y cyfnodau segur. Yn dibynnu ar y canlyniadau, gallai hyn arwain at newid yn nifer y camau adeiladu neu hyd y cyfnodau segur. Mae disgwyl i’r prosiect cyfan bara tua tair blynedd i dair blynedd a hanner.

Cam 1 Chwefror 2023 i Medi 2023 (Cwrs Golff y Rhyl ar gau)

  • Dechrau gwaith
  • Amddifyn cwlfert - Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Gwaith Arglawdd
  • Gwaith Traeth

Cam 2 Mehefin 2024 i Hydref 2024 (Cwrs Golff y Rhyl ar agor)

Gwaith Arglawdd

Cam 3 - Gorffennaf 2025 i Rhagfyr 2025 (Cwrs Golff y Rhyl ar agor)

  • Gwaith Arglawdd
  • Adeiladu llwybrau troed

Bydd clwb y Cwrs Golff yn parhau ar gau drwy gydol y cynllun. Bydd y llain o dir ar ddiwedd Ffordd Garford yn cael ei ddefnyddio gan y Cwrs Golff drwy gydol cyfnod y cynllun ar gyfer mynediad i'r Cwrs Golff. Bydd y gwaith o reoli'r llifddorau presennol yn parhau gyda chysylltiadau parhaus rhwng Balfour Beatty, Cyngor Sir Ddinbych a Chwrs Golff y Rhyl drwy'r amser.

Lle bo modd, bydd y llwybrau troed presennol yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod segur.

Oriau gwaith arferol Balfour Beatty ar y promenâd fydd 08:00 tan 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddai gwaith ar ddydd Sadwrn ond trwy gytundeb o flaen llaw gyda’r Cyngor. Byddai gwaith ar y traeth yn dilyn oriau gweithio afreolaidd yn ôl amseroedd dyddiol y llanw.

Bydd y prif ganolbwynt wedi’i leoli ym maes parcio’r Cwrs Golff. Bydd nifer o bwyntiau mynediad dros dro i’r safle’n cael eu gosod ar Ffordd Arfordir y Rhyl ac o faes parcio’r Cwrs Golff.

Defnyddir dau lwybr adeiladu i gyflenwi’r deunyddiau sydd eu hangen yn ystod datblygiad y cynllun. Y rhain yw:

  • O'r A55 gan ddilyn yr A525 a mynd i mewn i safle’r cynllun o’r gorllewin
  • Ar yr A548 o’r dwyrain

Promenâd ar gau

  • Cam 1: Bydd y promenâd ar gau o fis Ebrill 2023 tan fis Medi 2023 o’r ardal gyferbyn â Garford Road hyd at yr ardal sydd gyferbyn â Green Lanes
  • Cam 2: Bydd y promenâd ar gau o fis Medi 2024 tan fis Rhagfyr 2024 o’r ardal gyferbyn â Garford Road hyd at yr ardal sydd gyferbyn â Green Lanes

Bydd pob mynedfa i’r traeth yn cael eu symud i’r llwybrau hygyrch agosaf a gytunir gyda Chyngor Sir Ddinbych.

Cylchlythyrau

2024

2023

JBA Consulting Balfour Beatty logo Logo Llywodraeth Cymru