Ynglŷn â Chynllun Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl

Ewch yn syth i:

Trosolwg

Mae'r Rhyl yn dref glan môr boblogaidd gyda nifer o gartrefi a busnesau wedi'u lleoli ar hyd glan y môr.

Mae ardal ganolog y Rhyl (yn fras rhwng Splash Point i’r dwyrain a’r Ardal Chwarae Awyr Agored i Blant, gyferbyn â John Street, i’r gorllewin) wedi ei hamddiffyn gan strwythurau amddiffyniad môr ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r rhain yn dirywio ac, os na wneir unrhyw waith, gallant fethu o fewn y 10-15 mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd, rhagwelir fod 548 eiddo preswyl a 44 eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd.

Bwriad y cynllun yw gwella amddiffynfeydd llifogydd arfordirol yng nghanol y Rhyl er mwyn diogelu cartrefi a busnesau lleol a’r economi dwristiaeth rhag digwyddiadau o lifogydd ac erydu arfordirol yn y dyfodol.

Y broses gynllunio a chyllid

Mae cyllid wedi cael ei gytuno arno.

Daeth y cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio ar gyfer cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol y Rhyl i ben ar 9 Chwefror 2022. Cynhaliwyd arddangosfa gyhoeddus o’r cynllun yn Neuadd y Dref, Y Rhyl ar 25 a 26 Ionawr 2022.

Yna cafodd y cais cynllunio ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych ac mae ar gael i’w weld ar-lein. Rhif cyfeirnod y cais yw 45/2022/0271.

Cymeradwywyd cynllunio ar gyfer y cynllun ym mis Gorffennaf 2022.

Os oes gennych sylwadau’n ymwneud â’r cais cynllunio, dylid eu cyfeirio at Adran Gynllunio Cyngor Sir Ddinbych.

Trwydded Forol - Trwydded forol Band 3 gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi ei sicrhau er mwyn gwneud yn siŵr fod cydymffurfiad â Deddf Forol a Mynediad Arfordirol 2009 (gwefan allanol).

Map perygl llifogydd

Mae'r map hwn yn dangos i ba raddau y mae llifogydd yn bosib yn Y Rhyl ac yn dangos y perygl o lifogydd i eiddo os nad yw gwelliannau i amddiffynfeydd arfordirol yn cael eu gwneud:

Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Canol y Rhyl: Map perygl llifogydd

Maint rhagfynegol llifogydd yn 2118 yn seiliedig ar uchder yr amddiffynfeydd presennol, ar gyfer digwyddiad llifogydd sydd ag 1 siawns allan o 200 (0.5%) o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn.

Ynglŷn â'r cynllun

Yn wreiddiol, adeiladwyd yr amddiffynfeydd arfordirol yn Y Rhyl ar wahanol adegau rhwng 1900 ac 1920 ac nid ydynt bellach yn bodloni'r safonau cyfredol. Heb ymyrraeth, byddant yn methu yn y pen draw. Rydym angen eu disodli cyn gynted â phosib i leihau'r perygl o lifogydd a chefnogi adfywio Y Rhyl.

Mae Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Canol y Rhyl yn cynnwys pellter o tua 2km o Splash Point at yr Ardal Chwarae Awyr Agored i blant, gyferbyn â John Street.

Mae safon gofynnol amddiffynfeydd wedi newid ers i'r amddiffynfeydd presennol gael eu hadeiladu, sy'n golygu nad oes modd eu disodli am rhywbeth tebyg. Rydym wedi ystyried amrywiaeth eang o ddewisiadau er mwyn gwella'r amddiffynfeydd arfordirol presennol yng Nghanol Y Rhyl, yn unol â safon yr amddiffyniad a geir gan yr amddiffynfeydd cyfagos yn Nwyrain Y Rhyl (a gwblhawyd yn 2021) a Gorllewin Y Rhyl (a gwblhawyd yn 2015).

Mae'r dewis a ffefrir, a ddewiswyd drwy broses arfarnu gynhwysfawr yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, yn cynnwys dwy ran benodol:

  • Y rhan ddwyreiniol (wedi ei lliwio yn wyrdd ar y map) sy'n rhedeg o Splash Point at oddeutu'r SeaQuarium ac Arena Ddigwyddiadau'r Rhyl.
  • Y darn gorllewinol (yn las ar y map isod) sy’n mynd o SeaQuarium at gyferbyn â John Street.

Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Canol y Rhyl


Yn bennaf, bydd y rhan ddwyreiniol yn cynnwys amddiffynfa o greigiau a gaiff eu hychwanegu at sylfeini'r amddiffynfeydd presennol, ynghyd â gwaith trwsio gyda choncrid i'r amddiffynfeydd presennol.

Bydd yr amddiffynfeydd atal erydu’n cynnwys gosod creigiau ar waelod y strwythurau presennol.

Bydd y rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu claddu o dan lefel bresennol y traeth a bydd llwybrau cerdded drwy'r greigiau yn cynnal mynediad i'r traeth.

Cerrig i atal erydu yn Splash Point a allai ddod i'r golwg os bydd tueddiadau gostwng presennol y traeth yn parhau. Bydd mynediad at y traeth yn cael ei gynnal drwy lwybrau drwy'r cerrig.


Bydd y rhan gorllewinol yn cynnwys wal gynnal gyda grisiau newydd, promenâd wedi’i godi a’i ledaenu a morglawdd newydd.

Bydd gwell mynediad (trwy risiau a ramp) i’r traeth i’w gael yn y rhan gorllewinol:

Golygfa o'r fynedfa arfaethedig o'r stryd fawr i'r traeth. Gellir gweld y ramp mynediad newydd arfaethedig a'r grisiau i'r traeth.

Byddwn yn rhoi mesurau ar waith i liniaru unrhyw darfu ac unrhyw effeithiau amgylcheddol a allai godi yn sgil y gwaith adeiladu; er enghraifft yr effaith ar lefelau sŵn, dirgryniad, neu ansawdd yr aer.

Canlyniadau ymgysylltu anffurfiol â'r cyhoedd: Mis Gorffennaf a mis Awst 2021

Ym mis Gorffennaf a mis Awst 2021, gofynnwyd am eich adborth ar y cynllun, gan gynnwys y dewisiadau ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd y gallem eu defnyddio, er mwyn deall beth sy’n bwysig i chi, pa fuddion yr ydych chi’n meddwl y gallai’r cynllun eu cynnig, ac unrhyw bryderon sydd gennych.

Ymatebodd 162 unigolyn i’r arolwg ar-lein. Dyma’r prif bethau i’w nodi o’r arolwg:

Y dair ystyriaeth fwyaf pwysig i chi wrth i ni ddatblygu’r cynllun oedd:

  • Mae angen i'r golygfeydd o'r môr/cynllun edrych yn ddeniadol (nododd 85% fod hyn yn 'bwysig iawn')
  • Mynediad hawdd at lwybrau beicio a cherdded di-draffig (72%)
  • Mynediad hawdd at doiledau cyhoeddus (69%)

Tri budd posib mwyaf pwysig y cynllun i chi oedd:

  • Mwy o wytnwch i wrthsefyll llifogydd ac erydu arfordirol (nododd 81% fod hyn yn 'bwysig iawn')
  • Gwella edrychiad y traeth a’r promenâd (79%)
  • Gwella’r mynediad presennol i’r traeth (70%)

Amlygodd adborth o’r arolwg rai pryderon cyffredin hefyd, gan gynnwys:

  • Cadw'r traeth a’r promenâd yn hygyrch yn ystod ac ar ôl y gwaith adeiladu
  • Sut y bydd yr amddiffynfeydd yn edrych
  • Yr effaith bosibl ar fusnesau/twristiaeth tra bod gwaith yn cael ei wneud (yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur o ran twristiaeth)
  • Colli'r traeth tywodlyd presennol
  • Y rhwystrau posibl i olygfeydd o'r môr

Hoffem ddiolch i bawb a lenwodd yr arolwg, byddwn yn cymryd eich barn i mewn i ystyriaeth wrth i ni ddatblygu'r cynllun.

Y camau nesaf

Disgwylir i waith adeiladu’r cynllun gymryd tua dwy flynedd a hanner.

Bydd y gwaith adeiladu ar y darn gorllewinol, o SeaQuarium at John Street, yn parhau trwy gydol y cyfnod adeiladu llawn o Chwefror 2023 tan Hydref 2025.

Disgwylir i’r darn dwyreiniol o Splash Point at SeaQuarium gymryd tua blwyddyn o Fawrth 2023 tan Fawrth 2024.

Bydd y prif gompownd o fewn compownd presennol Balfour Beatty ar Marine Drive. Bydd compownd dros dro ychwanegol hefyd ar Stryd y Cei. Bydd nifer o fannau mynediad dros dro i’r safle yn cael eu gosod ar yr ochr ddwyreiniol a’r Ardal Chwarae Awyr Agored (gyferbyn â John Street).

Oriau gweithio arferol Balfour Beatty ar y promenâd fydd o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 07:00 a 19:00. Bydd dydd Sadwrn ond trwy gytundeb o flaen llaw gyda’r Cyngor. Bydd gwaith ar y traeth yn dilyn oriau gweithio afreolaidd yn ôl amseroedd llanw dyddiol.

Byddwn yn rhoi mesurau mewn lle i liniaru unrhyw darfu ac unrhyw effeithiau amgylcheddol allai godi yn sgil y gwaith adeiladu, er enghraifft yr effaith ar lefelau sŵn, cryndod, neu ansawdd yr aer.

Defnyddir dau lwybr adeiladu i gyflenwi’r deunyddiau sydd eu hangen yn ystod datblygiad y cynllun.

Sef:

  • O'r A55 yn dilyn yr A525, gan gyrraedd ardal y cynllun o’r gorllewin
  • Ar hyd yr A548 o’r dwyrain

Promenâd ar Gau

Bydd y promenâd ar gau o Chwefror 2023 tan Hydref 2025, rhwng SeaQuarium a John Street. Bydd llwybrau gwyro digonol yn cael eu gweithredu ble fo angen.

Bydd cyfnodau cau’r promenâd yn lleol o Fawrth 2023 tan fis Mawrth 2024 o Splash Point at Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl.

Bydd bob mynedfa i’r traethau yn cael eu symud i’r llwybrau hygyrch agosaf a gytunir gyda Chyngor Sir Ddinbych. 

Cylchlythyrau

2024

2023