Mae hwn yn weithdy Zoom ar-lein i bobl 65 oed neu hŷn i fagu hyder wrth yrru.
Bydd y gweithdy ar-lein hwn yn rhoi’r cyfle i chi holi cwestiynau i ‘Hyfforddwr Gyrru Uwch profiadol’ a gadael gyda chynghorion defnyddiol er mwyn parhau i yrru am hirach.
Dyddiadau ac amseroedd
I'w gadarnhau.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn?
Mae hwn yn ddigwyddiad i bobl dros 65 oed
Yn lle?
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal ar-lein ar Zoom, felly gallwch fod yn gyfforddus yn eich cartref.
Er mwyn defnyddio Zoom ,bydd arnoch angen:
- Gliniadur, cyfrifiadur bwrdd gwaith, ffôn clyfar neu ddyfais llechen
- Cysylltiad â’r rhyngrwyd
- Seinydd, meicroffon, gwe-gamera naill ai’n fewnol neu wedi ei lynu wrth eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol
Rhagor o wybodaeth
Mae Zoom yn wasanaeth fideo gynadledda drwy gwmwl y gallwch chi ei ddefnyddio i gwrdd ag eraill dros y we.
Gwybod mwy am zoom (gwefan allanol)