Kerbcraft

Mae Kerbcraft yn gynllun sy'n dysgu plant 5-7 oed sut i fod yn fwy diogel ar y ffyrdd.

Mae gwirfoddolwyr hyfforddedig yn mynd â phlant ar ffyrdd go iawn, mewn grwpiau o ddim mwy na thri, i ddangos iddynt sut gall gwneud y penderfyniadau cywir a’r ymddygiad iawn helpu i'w cadw'n ddiogel. Mae plant yn dysgu sut i:

  • dewis llefydd diogel i groesi'r ffordd
  • adnabod peryglon a dewis mannau croesi eraill
  • croesi'n ddiogel yn ymyl ceir sydd wedi'u parcio pan fo’n amhosibl eu hosgoi
  • croesi'n ddiogel ger cyffyrdd
  • edrych yn systematig i bob cyfeiriad cyn croesi'r ffordd

I gael rhagor o wybodaeth am sesiynau Kerbcraft yn ysgol eich plentyn, cysylltwch â'r ysgol.

Dylai plant ifanc bob amser fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol pan maent ger y ffordd – hyd yn oed ar ôl hyfforddiant. Bydd eich anogaeth o’r sgiliau diogelwch ffyrdd hyn yn helpu eich plentyn i’w hymarfer yn rheolaidd.