Rhoi wyneb newydd ar y ffordd
Rydym ni’n cynnal 1,400km o ffyrdd yn y sir yn defnyddio tri phrif fath o driniaeth (sy’n cael eu disgrifio isod). Byddwn yn asesu cyflwr y ffordd ac yn dewis y dull gorau i’w ddefnyddio ym mhob achos. Efallai y bydd angen i ni gau’r ffordd neu roi rheolaethau traffig ar waith dros dro i gadw defnyddwyr y ffordd a’r gweithlu’n ddiogel.
Mae modd rhoi wyneb newydd ar y ffordd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond gall gael ei effeithio gan dywydd garw (fel glaw trwm a thymheredd is), sy’n gallu achosi oedi neu arafu’r gwaith. Mae triniaethau fel ‘micro-arwynebu’ a thrin y wyneb yn cael eu heffeithio’n waeth gan dywydd garw, felly rydym ni fel arfer yn gwneud y gwaith hwn rhwng mis Ebrill a mis Medi.
Arwynebu
Dyma’r dull traddodiadol o roi wyneb newydd ar y ffordd ac mae fel arfer yn cynnwys tynnu’r wyneb sydd ar y ffordd a gosod tarmacadam newydd. Lle bo modd, byddwn yn rhoi’r driniaeth ar ben y wyneb sydd yno eisoes i leihau gwastraff. Mae’r math o gynnyrch sy’n cael ei ddefnyddio’n dibynnu ar gyflwr wyneb y ffordd, faint o draffig sy’n teithio arni a’r gofynion o ran atal sgidio ar gyfer y rhan honno o’r ffordd. Rydym ni ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau is o ran carbon / mwy carbon niwtral ar gyfer y dyfodol.
Micro-arwynebu
Mae micro-arwynebu (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘ficro-asffalt’) yn ‘driniaeth wyneb’ i ffyrdd. Mae’n cael ei roi ar ben y wyneb sydd ar y ffordd i selio ac adfer proffil y ffordd gan hefyd helpu i’w hatal rhag dirywio rhagor. Mae proffil mwy llyfn i’r wyneb gorffenedig, heb fân dyllau a phantiau eraill. Mae hon yn broses wahanol iawn sy’n edrych yn flêr iawn i ddechrau, ond mae’n ddull dibynadwy ac mae’n rhoi canlyniad cost-effeithiol sy’n para blynyddoedd.
Manteision:
- Mae’n hawdd ei osod, sy’n amharu llai ar draffig
- Mae’n ffordd gost-effeithiol o ymestyn oes y ffordd
- Mae’n gwarchod strwythur y pafin rhag lleithder a rhag dirywio rhagor
Trin y wyneb
Mae trin y wyneb yn ffordd gost-effeithiol o atal wyneb y ffordd rhag dirywio rhagor, sy’n osgoi’r angen am waith trwsio llawer drutach ymhen rhai blynyddoedd. Mae hefyd yn ffordd wych o wneud hen wyneb ffordd yn llai perygl o ran sgidio a thros y blynyddoedd diwethaf mae’r broses wedi’i gwella drwy roi haen derfynol o bitwmen. Mae hyn yn gwella gwedd y ffordd hefyd, sy’n fantais ychwanegol.
Mae’r gwaith yn dibynnu ar dywydd cynnes a sych, felly mae’r gwaith fel arfer yn cael ei wneud rhwng mis Ebrill a mis Medi.
Manteision:
- Mae’n eithaf cyflym – mae modd cwblhau 1km o ffordd mewn tua dwy awr, sy’n lleihau oedi i draffig
- Mae’n well i’r amgylchedd gan ei fod yn ailddefnyddio deunyddiau lle bo modd
- Mae dair i bedair gwaith yn rhatach na ffyrdd eraill o gynnal ffordd a deg gwaith yn fwy cost-effeithiol na rhoi wyneb newydd arni yn y modd arferol
- Gall ymestyn oes ffordd am dros ddeng mlynedd