Rydym ni’n cydlynu holl waith ffordd Sir Ddinbych, gan gynnwys gwaith gan gwmnïau nwy, dŵr, trydan a ffôn.
Rydym ni’n gweithredu rhaglen gynlluniedig o waith i gynnal a chadw ac i wella ffyrdd Sir Ddinbych. Rydym ni’n pennu dyddiadau dechrau a gorffen, ond mae’n bosib y byddan nhw’n newid yn sgil tywydd drwg neu argyfwng yn rhywle arall.
Rhaglen rhoi wyneb newydd ar ffyrdd 2022 i 2023
Map o waith ffyrdd cyfredol yn Sir Ddinbych (gwefan allanol)
Rydym ni’n ceisio cynllunio gwaith ffordd ymhell o flaen llaw, ond dydi hyn ddim bob tro yn bosib oherwydd gwaith brys sydd angen ei wneud.
O bryd i'w gilydd, rydym yn cau ffyrdd dros dro ar gyfer digwyddiadau megis gorymdeithiau, digwyddiadau seiclo neu ddigwyddiadau mawr eraill pan fydd y ffyrdd yn debyg o fod yn llawn. Mae'n rhaid i ni hefyd gau ffyrdd er mwyn i waith ffordd gael ei gynnal.
Byddwn yn rhestru unrhyw fanylion yma.