Bathodyn Glas

Mae Bathodyn Glas yn caniatáu i bobl sydd yn anabl neu â chyflwr iechyd sy’n effeithio ar eu symudedd i barcio’n agosach at eu cyrchfan. Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas fel gyrrwr, teithiwr neu sefydliad.

Mae Bathodynnau Glas yn ddilys am fwyafswm o 3 blynedd yn dibynnu ar amodau’r cais.

Gwneud cais neu adnewyddu Bathodyn Glas

Gallwch wneud cais neu adnewyddu bathodyn glas arlein ar GOV.UK. Gallwch wneud cais am fathodyn newydd 8 wythnos cyn iddo ddod i ben. Os ydych yn adnewyddu eich bathodyn (nid yw'n adnewyddu'n awtomatig) llenwch ffurflen newydd arlein o leiaf 8 wythnos cyn i’ch bathodyn presennol ddod i ben.

Gwneud cais neu adnewyddu bathodyn glas arlein (gwefan allanol)

Os ydych angen cymorth dros y ffôn i gwblhau cais arlein, cysylltwch gyda’ch Llyfrgell a Siop Un Alwad lleol.

Yng Nghymru ni chodir tâl am Fathodyn Glas. Nid yw gwefannau sy’n codi tâl i wneud cais am Fathodyn Glas yn ddarparwyr dilys a dylid eu hosgoi.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gall y broses ymgeisio gymryd hyd at 8 wythnos i’w chwblhau.

Os byddwch yn llwyddiannus, bydd eich bathodyn yn cael ei anfon atoch – gall gymryd hyd at bythefnos i gyrraedd (o ddyddiad anfon y gymeradwyaeth am y bathodyn at yr argraffwyr).

Os yw eich cais yn aflwyddiannus, gallwch ailymgeisio os yw eich amgylchiadau yn newid neu fe allwch chi gysylltu â ni gyda rhagor o wybodaeth i ni ei hystyried. Nid oes proses apelio.

Beth os yw fy manylion yn newid?

Rhowch wybod i ni os ydych chi'n newid eich enw neu gyfeiriad, neu os ydych chi'n cael car newydd gyda rhif cofrestru newydd.

Codir tâl o £10 arnoch i newid eich enw. Nid oes angen talu i newid unrhyw fanylion eraill.

Pwy all wneud cais am Fathodyn Glas?

Gall unigolyn yn un o’r categorïau canlynol fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas (dewiswch gategori i gael rhagor o wybodaeth):

Awtomatig

Gallai unigolyn fod yn gymwys am fathodyn, heb fod angen asesiad, os ydynt:

  • Yn derbyn taliad Annibyniaeth Personol (PIP) ar y lefelau canlynol:
    • 12 pwynt ar gyfer Cynllunio a Dilyn Taith
    • 8 pwynt neu fwy ar gyfer symudedd
  • Yn derbyn Elfen Symudedd Cyfradd Uwch y Lwfans Byw i'r Anabl (y Gyfradd Uwch)
  • Yn derbyn cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, Tariff 1-8 (cynhwysol) gan gynnwys Anhwylder Meddwl Parhaol o dan Dariff 6
  • Yn derbyn atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel
  • Wedi'u 'Cofrestru’n ddall' neu â 'nam difrifol ar eu golwg'
Yn ôl Disgresiwn

Gall amgylchiadau penodol wneud unigolyn yn gymwys, sef:

  • Methu cerdded o gwbl. Anhawster mawr i gerdded. Nam sylweddol ar symudedd
    • Person dros ddwy flwydd oed sydd ag anabledd parhaol a difrifol. Mae hyn yn golygu nad yw’n gallu cerdded neu’n cael anhawster mawr i gerdded. Mae angen cymhorthion cerdded neu hyd yn oed ocsigen arno i gerdded ychydig megis hanner hyd cae pêl-droed.
  • Plentyn o dan dair blwydd oed sydd â chyflwr meddygol sy’n golygu:
    • bod angen offer meddygol mawr na ellir ei gludo gyda’r plentyn heb anhawster wrth law bob amser.
    • bod rhaid iddo bob amser fod yn agos at gerbyd i gael triniaeth feddygol a all achub bywyd ar gyfer y cyflwr hwnnw neu er mwyn iddo allu teithio’n gyflym yn y cerbyd i rywle y gellir rhoi triniaeth o’r fath.
  • Anabledd difrifol yn y ddwy fraich
    • Person sydd, o ganlyniad i’r anabledd, yn methu â defnyddio, neu’n cael anhawster difrifol i ddefnyddio unrhyw fath o fesurydd parcio. Neb ond y sawl sy’n gyrru gaiff ddefnyddio’r bathodyn hwn.
  • Nam Gwybyddol Difrifol
    • Person nad yw’n gallu cynllunio na dilyn unrhyw daith heb gymorth rhywun arall.
  • Salwch angheuol sy'n cyfyngu'n sylweddol ar symudedd
Dros Dro

Caiff unigolyn wneud cais am fathodyn 12 mis dros dro os yw’n aros am driniaeth ar gyfer salwch neu anaf difrifol neu'n gwella ar ôl salwch neu anaf difrifol. Dyma rai enghreifftiau:

  • Gwella ar ôl torri asgwrn coes yn ddifrifol ac yn defnyddio fframiau a phiniau, am fwy na blwyddyn
  • Aros am driniaeth i gael e.e. clun, pen-glin newydd, neu’n gwella ar ôl cael triniaeth o’r fath sy’n cyfyngu'n ddifrifol ar symudedd
  • Gwella ar ôl strôc neu anaf pen sy’n effeithio ar ei symudedd
  • Gwella ar ôl trawma i’r cefn sy’n effeithio ar symudedd
  • Yng nghanol cael triniaeth feddygol e.e. ar gyfer canser, sy’n effeithio ar ei symudedd

Sefydliad

Gall Sefydliad fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas os yw’n gofalu am bobl anabl neu’n cludo pobl anabl fyddai’n gymwys i gael Bathodyn Glas eu hunain.

Ble gaf i barcio?

Os oes gennych fathodyn glas, cewch barcio:

  • ar linell felen unigol neu ddwbl am hyd at dair awr, oni bai bo gwaharddiad ar lwytho a dadlwytho (a ddangosir gan fylchau melyn ar y palmant a/neu arwyddion)
  • am ddim ac am gyfnod amhenodol wrth fesuryddion parcio ar y stryd
  • mewn mannau parcio i bobl anabl mewn meysydd parcio (bydd angen i chi dalu o hyd mewn meysydd parcio yn Sir Ddinbych)

Sut ydw i'n arddangos y Bathodyn Glas?

Dylech arddangos eich bathodyn glas ar y forden flaen, fel y gellir ei weld yn glir o du allan i’r cerbyd. Dylai ffrynt y bathodyn wynebu at i fyny, gan ddangos y symbol cadair olwyn, neu’r hologram ar y dyluniad newydd.

Pan gewch eich bathodyn, bydd cloc parcio ynghlwm ag o. Bob tro byddwch yn parcio ar linellau melyn, neu mewn lle â chyfyngiadau amser, dylai’r cloc ddangos y cyfnod chwarter awr y cyrhaeddoch.

Mwy o wybodaeth

Nid yw'r rhesymau isod ar eu pen eu hunain yn ddigon i gael Bathodyn Glas:

  • Beichiogrwydd
  • Lwfans Byw i’r Anabl - Cyfradd Is
  • Lwfans Gweini
  • Anabledd mewn un fraich 
  • Problemau â’r bledren neu’r coluddyn megis clefyd Crohn neu Golitis
  • Cyflyrau dros dro megis torri neu droi braich neu goes lle mae angen ei roi mewn cast am wythnosau neu fisoedd
  • Triniaeth ar gyfer salwch neu anaf nad yw’n cael effaith fawr ar symudedd

Am fwy o wybodaeth am Fathodynnau Glas, anfonwch e-bost atom blue.badge@denbighshire.gov.uk.

Dogfennau cysylltiedig