Gwneud cais am farciau H

Mae marciau H yn llinellau siâp ‘H’ gwyn wedi eu paentio ar ymyl y palmant i dynnu sylw at ddreif neu fynedfa. Marciau i’ch cynghori yn unig ydynt ac nid oes iddynt unrhyw rym cyfreithiol. Fe’u gelwir hefyd yn Farciau Diogelu Mynediad (MDM).

Sut ydw i'n gwneud cais am MDM?

Cysylltwch â ni i ofyn am MDM. Gadewch i ni wybod yn union ble hoffech gael y marciau, a rhowch fanylion am y problemau rydych yn eu cael.

Wedyn, byddwn yn cynnal asesiad i benderfynu os yw MDM yn briodol. Ni ddylid defnyddio gormod ar MDM, gan fod hyn yn eu gwneud yn llai effeithiol.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw eich cais am MDM yn llwyddiannus.

Codir £50 am y marciau. Os ydych am fwrw ‘mlaen, bydd angen i chi dalu ymlaen llaw, ac yna byddwn yn trefnu gwneud y gwaith pan fydd y contractwr marcio ffyrdd yn yr ardal nesaf.

A ellir gorfodi MDM?

Fel nodwyd uchod, i’ch cynghori yn unig mae MDM a does ganddynt ddim grym cyfreithiol. Fodd bynnag, caiff parcio ar draws mynedfa rywun ei weld fel creu rhwystr, a gall yr Heddlu gymryd camau gorfodaeth am hyn, pe bai MDM yn bresennol ai peidio.