Herio dirwy barcio

Sut i herio dirwy barcio

Gallwch herio RhTC parcio yn anffurfiol o fewn 14 diwrnod o’i gyflwyno. Rhaid i chi roi eich her yn ysgrifenedig, un ai ar-lein neu mewn llythyr at:

Partneriaeth Prosesu Dirwyon Cymru
Blwch Post 273
Y Rhyl
LL18 9EJ

Pan ysgrifennwch atom, nodwch eich achos yn glir a syml. Os oes gennych unrhyw dystiolaeth, fel derbynebau neu ddatganiadau gan lygad dystion, anfonwch gopïau o’r rhain hefyd. Mae’n well i chi anfon copïau a chadwch y rhai gwreiddiol.

Byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 28 diwrnod o dderbyn eich her. Os derbyniwn eich her, bydd y RhTC yn cael ei ganslo ac ni fydd raid i chi dalu. Os gwrthodwn eich her, bydd yn rhaid i chi dalu’r RhTC o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y llythyr oddi wrthym. Os talwch o fewn y 14 diwrnod cyntaf, fe fedrwch gael y disgownt o 50%.

Ni allwch wneud her anffurfiol os ydych eisoes wedi cael Rhybudd i Berchennog (RhiB).

Wedi cael Rhybudd i Berchennog (RhiB)?

Os na thalwch eich dirwy na herio’ch RhTC yn anffurfiol o fewn 28 diwrnod o’i gyhoeddi, byddwn yn anfon Rhybudd i Berchennog (RhIB) at berchennog cofrestredig y cerbyd.

Yn y cam hwn gallwch wneud her ffurfiol trwy ysgrifennu i'r cyfeiriad uchod, a dyfynnu un o’r rhesymau a restrwyd am sail gwneud her. Darllenwch y rhesymau a dderbynnir am her ffurfiol.

Rhesymau a dderbynnir dros herio dirwy barcio (RhTC) yn ffurfiol:

  • Ni ddigwyddodd y drosedd honedig
  • Roedd ffi’r ddirwy yn fwy na’r swm perthnasol (sydd ar hyn o bryd yn £50 neu £70 yn amodol ar lefel y drosedd)
  • Nid oedd y gorchymyn traffig yn ddilys
  • Nid fi oedd perchennog/ ceidwad y cerbyd pan ddigwyddodd y drosedd
  • Cafodd y cerbyd ei ddwyn neu aethpwyd ag o heb fy nghaniatâd
  • Rydym yn gwmni llogi, a gallwn ddarparu enw'r person a oedd wedi llogi'r cerbyd pan ddigwyddodd y drosedd
  • Bu amhriodoldeb trefniadol gan yr awdurdod gorfodi
  • Rwyf eisoes wedi talu’r ddirwy, un ai yn llawn neu am y swm disgownt priodol.

Bydd eich her yn cael ei hymchwilio a byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 10 diwrnod gwaith.

Eisiau apelio?

Os gwrthodwn eich apêl ffurfiol a’ch bod dal am gwestiynu’r RhTC, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Dirwy Traffig annibynnol. Byddwn yn rhoi manylion ar sut i wneud hyn yn y llythyr gwrthod yr anfonwn atoch.

Cysylltwch â ni ar-lein.