Teithio Llesol

Mae teithio llesol yn golygu cerdded a beicio (gan gynnwys cadeiriau olwyn trydan a sgwteri symudedd) ar gyfer teithiau byr bob dydd, fel teithio i'r ysgol, gwaith, neu i gael mynediad i siopau, gwasanaethau a gorsafoedd bysiau/trenau. Nid yw teithio llesol yn cynnwys teithiau a wneir am resymau hamdden neu gymdeithasol yn unig.

Ym mis Medi 2014, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Ddeddf teithio llesol (Cymru) sy'n ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i awdurdodau lleol yng Nghymru fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol o fewn aneddiadau penodol yn Sir Ddinbych, fel y'u dynodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dweud eich dweud am gerdded a beicio yn Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Mapiau llwybrau presennol

Roedd cam cyntaf y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynhyrchu mapiau llwybrau presennol (ERMs) i ddangos llwybrau presennol yn Sir Ddinbych yr ystyriai'r Cyngor eu bod yn addas ar gyfer teithio llesol. Felly nid yw'r ERMs yn dangos yr holl lwybrau cerdded a beicio sydd ar gael mewn ardal.

Mapiau rhwydwaith integredig

Roedd ail gam y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio mapiau rhwydwaith integredig (INMs) i ddangos llwybrau newydd posibl neu welliannau i lwybrau presennol yn Sir Ddinbych.

Adroddiadau