Adeiladau mewn perygl

Mae Adeiladau mewn Perygl yn cyfeirio at adeiladau a strwythurau hanesyddol sydd mewn perygl trwy esgeulustod a dirywiad ac sy'n cael eu cynnwys ar y rhestr statudol o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

Roedd Cadw yn cydnabod bod llawer o adeiladau rhestredig mewn cyflwr gwael, ond roedd graddau’r dadfeilio yn anhysbys. Er mwyn gwella ein dealltwriaeth o gyflwr stoc adeiladau rhestredig roedd Cadw wedi ariannu arolwg adeiladau mewn perygl ar gyfer pob awdurdod lleol.

Sut y caiff adeiladau eu hasesu?

Cafodd yr arolygon Adeilad mewn Perygl eu cynnal gan syrfëwr arbenigol ac roedd yn dilyn methodoleg safonol a oedd yn ystyried cyflwr cydrannau penodol pob adeilad a pha un a oedd yr adeilad wedi’i feddiannu. Y canlyniad oedd sgôr allan o 6 ar gyfer pob adeilad gydag 1 ar gyfer adeiladau mewn cyflwr gwael iawn a 6 ar gyfer adeiladau mewn cyflwr da. Mae adeiladau’n cael eu hystyried mewn perygl os oes ganddynt sgôr pwyntiau o 1 - 3.

Gall Adeiladau mewn Perygl eu categoreiddio yn dibynnu ar eu lefel o risg fel a ganlyn:

  • Perygl eithriadol
  • Perygl difrifol
  • Mewn Perygl
  • Bregus (ni ystyrir eu bod 'mewn perygl', fodd bynnag, os caniateir i’w cyflwr ddirywio gallant ddod o fewn un o'r categorïau 'mewn perygl'.

Yn Sir Ddinbych, mae 148 o adeiladau rhestredig yr ystyrir eu bod 'mewn perygl' ar hyn o bryd. Mae 35 o adeiladau yn y categori perygl gwaethaf (categori 1).