Polisi cynllunio cenedlaethol wedi'i ddiweddaru ar gyfer Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru

Mae Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Ddatganiad Isadeiledd Gwyrdd gael ei gyflwyno gyda phob cais cynllunio. Mae hefyd yn cynghori bod yn rhaid i bob datblygiad gyflwyno budd net ar gyfer bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystem o gyflwr y waelodlin (yn gymesur â maint a natur y datblygiad arfaethedig). Hyd yn oed os yw’r gwerth bioamrywiaeth wedi’i gynnal, mae’n rhaid cael proses ragweithiol i edrych am a sicrhau gwelliant drwy ddyluniad a gweithredu’r datblygiad.

Cynghorir bod hwn yn cael ei gyflwyno ar y dechrau i symleiddio’r broses ystyried a phrosesu eich cais. Byddem hefyd yn argymell manylu’r isadeiledd gwyrdd a mesurau bwriedig ar y safle a chynlluniau drychiad i arbed yr angen am amodau.

Ni ellir ymdrin â cheisiadau nes bod y Datganiad Isadeiledd Gwyrdd wedi ei gyflwyno.

Ymweld â Pholisi Cynllunio Cymru am fwy o wybodaeth (gwefan allanol)

Polisi Cynllunio Cymru, Rhifyn 12, Chwefror 2024

Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bolisi Cynllunio Cymru Rhifyn 12 i fynd i’r afael â’r argyfwng natur, sy’n cynnwys diwygiadau i Bennod 6, ‘Creu Lleoedd Unigryw a Naturiol a Llesiant’.

Daeth y newidiadau polisi i rym ar unwaith ac mae’n effeithio ar bob cais cynllunio.

Mae yna gryn dipyn i’w ystyried ym Mhennod 6, ond mae’r prif newidiadau polisi’n ymwneud â:

  • Seilwaith Gwyrdd
  • Mantais Net i Fioamrywiaeth a’r Dull Fesul Cam
  • Gwarchod Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • Coed a Choetir

Mae Polisi Cynllunio Cymru 12 i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol)

 

Un newid allweddol yw’r gofyniad i bob cais cynllunio gael ei gyflwyno gyda ‘Datganiad Seilwaith Gwyrdd’ (para 6.2.5). Mae angen ‘Datganiad Seilwaith Gwyrdd’ gyda phob cais newydd bellach, a dylai ddisgrifio sut mae seilwaith gwyrdd wedi’i ymgorffori yn y cynnig.

Bydd y datganiad Seilwaith Gwyrdd yn ffordd effeithiol o ddangos canlyniadau amlswyddogaethol cadarnhaol sy’n briodol i’r safle dan sylw, ac mae’n rhaid ei ddefnyddio i ddangos sut mae’r ‘Dull Fesul Cam’ (Paragraff 6.4.21) wedi’i ddefnyddio.

Dylai’r datganiad fod yn gymesur â graddfa a natur y datblygiad arfaethedig, er enghraifft ar gyfer datblygiadau deiliad tŷ a mân ddatblygiadau, byddai hwn yn ddisgrifiad byr fel arfer.