Safle Sipsiwn/Teithwyr diawdurdod rhwng Llandegla a Bwlchgwyn
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Rhybudd Gorfodi mewn perthynas â'r safle uchod, ac rydym yn parhau i dderbyn nifer uchel o ymholiadau ynghylch yr achos. Mewn ymateb i hynny, rydym yn darparu diweddariadau ynghylch yr achos yn y fan yma.
Mae statws cyfredol yr achos fel a ganlyn:
Mae Rhybudd Gorfodi wedi’i gyhoeddi yn gofyn am adfer y safle i’w gyflwr awdurdodedig blaenorol. Daeth cyfnod cydymffurfio'r Rhybudd i ben ar 6 Mai 2021, ond nid yw’r derbynwyr wedi cydymffurfio â gofynion y Rhybudd. O ganlyniad, mae’r Cyngor wedi clirio rhan o’r safle. Mae’r Cyngor yn ystyried pa gamau eraill y gallwn ni eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth. Rydym wedi derbyn cyngor cyfreithiol annibynnol i sicrhau bod ein camau nesaf yn cydymffurfio â’r gyfraith.
Adolygwyd y statws yma ar 29 Ebrill 2022 a chaiff ei adolygu'n rheolaidd. Darperir diweddariad statws pellach maes o law.
Safle Sipsiwn/Teithwyr diawdurdod rhwng Llandegla a Bwlchgwyn: Cwestiynau Cyffredin
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae’r Cyngor yn ymateb i achosion posibl o dorri rheolau cynllunio yn ein siarter cydymffurfiaeth cynllunio.