Enwi a rhifo strydoedd: Codau post

Mae codau post yn gyfarwyddyd i drefnu a llunio llwybrau ar gyfer y Post Brenhinol er mwyn dosbarthu eitemau yn gyflym a chywir.  

Codau post newydd

Ar ôl cofrestru cyfeiriad gyda ni, rydym yn rhannu’r wybodaeth gyda’r Post Brenhinol sy’n dyrannu cod post.  Nid ydym ni’n dyrannu unrhyw godau post.

Rydym yn derbyn codau post gan y Post Brenhinol ar gyfer cyfeiriadau.

Ar ôl i’r Post Brenhinol ddyrannu cod post maent yn ychwanegu’r cyfeiriad post newydd i’r ffeil Heb ei Adeiladu (NYB).  Pan adeiladir yr eiddo a bod rhywun yn byw ynddo ac yn gallu derbyn post, bydd y Post Brenhinol yn symud y cyfeiriad i Ffeil Cyfeiriadau Cod Post (PAF).  Mae hyn yn golygu y gall busnesau a gwasanaethau sy'n prynu gwybodaeth am gyfeiriadau gan y Post Brenhinol weld y cyfeiriad.

Sut i wirio eich cod post

Gallwch wirio cod post ar declyn canfod cod post y Post Brenhinol (gwefan allanol).

Os na allwch ddod o hyd i’ch cod post/ cyfeiriad

Os na allwch ddod o hyd i’ch cod post neu’ch cyfeiriad ar wefan y Post Brenhinol, cysylltwch â'r Post Brenhinol (gwefan allanol).