Ffioedd ar gyfer gwasanaethau enwi a rhifo strydoedd o 1 Ionawr 2026

Bydd y ffioedd isod yn cael eu cyflwyno ar gyfer ceisiadau sy’n ymwneud â gwasanaethau enwi a rhifo strydoedd o 1 Ionawr 2026 ymlaen.

Ffioedd ar gyfer ceisiadau’n ymwneud ag enwi a rhifo strydoedd o 1 Ionawr 2026 ymlaen
Math o gaisFfi
Newid enw tŷ £85
Ychwanegu enw i eiddo sydd eisoes wedi’i rifo £85
Addasu eiddo, gan gynnwys rhannu / uno £85 a £40 fesul cyfeiriad ychwanegol a effeithir
Cofrestru uned / annedd / fflat newydd sengl £120
Mwy nag un annedd newydd £140 a £40 fesul plot
Stryd newydd £140 fesul stryd
Newidiadau i gynllun sydd eisoes wedi ei gyflwyno £55 fesul plot a effeithir
Newid enw stryd yn ôl cais gan breswylwyr (ac eithrio cost plât enw newydd) £550 a £70 fesul eiddo a effeithir – heb gynnwys cost platiau enw
Llythyr cadarnhau cyfeiriad £50

Nid yw TAW yn berthnasol ar gyfer y ffioedd hyn.

Gosodir y ffioedd hyn ar sail adennill costau ar gyfer gweinyddu gwasanaethau yn ymwneud ag enwi a rhifo strydoedd yn ôl disgresiwn a byddant yn cael eu hadolygu’n flynyddol.