Rhoi gwybod am achos o dorri rheolau cynllunio

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

* = gwybodaeth ofynnol.

  • Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i roi gwybod am achos o dorri rheolau cynllunio yn Sir Ddinbych.

    Cyn i chi lenwi'r ffurflen hon

    Cwynion dienw

    Ni fyddwn yn ymchwilio i adroddiadau dienw. Mae adroddiadau yn cael eu trin yn gyfrinachol a bydd eich manylion yn cael eu diogelu.

    Datblygiadau sy’n niweidio gwerth neu werthiant eiddo

    Mi allwn dim ond dilyn toriadau holiedig sydd yn achosi unrhyw fath o niwed i amwynder y cyhoedd, e.e. i ddiogelwch y cyhoedd, treftadaeth adeiledig, yr amgylchedd, ayyb. Nid yw gwerth neu werthu o eiddo yn cael ei ystyried gan y gwasanaeth cynllunio.

    Busnesau sy’n cael eu rhedeg o gartref

    Nid oes fel arfer angen Caniatâd Cynllunio ar fusnesau bychain sy’n cael eu rhedeg o gartref ond gallai rheolau cynllunio fod wedi eu torri lle:

    • Nad yw tŷ bellach yn cael ei ddefnyddio’n bennaf fel man preswyl preifat
    • Mae'r busnes wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn traffig neu nifer y bobl sy'n galw
    • Mae'r busnes wedi bod yn ymwneud â gweithgareddau niweidiol sy’n anarferol mewn ardal breswyl
    • Mae'r busnes wedi tarfu ar gymdogion yn ystod oriau afresymol neu wedi creu mathau eraill o niwsans fel sŵn neu arogleuon.

    Carafanau

    Gellir cadw carafanau mewn gardd heb Ganiatâd Cynllunio, cyn belled â'u bod yn cael eu defnyddio at ddibenion sy'n ategol i'r tŷ. Yn yr un modd, gellir gosod carafanau ar dir amaethyddol neu goedwigaeth, er y bydd cyfyngiadau ar feddiannaeth a defnydd fel arfer yn berthnasol. Gellir ystyried llawer o fathau o adeiladau gardd, chalets neu gabannau yn garafanau dan ddeddfwriaeth berthnasol

    Eiddo blêr

    Gallwn ond ymchwilio i droseddau y gellir eu gweld o ardal gyhoeddus.

    Y broses ymchwilio

    Mae ymchwilio i dorri rheolau cynllunio honedig yn wasanaeth dewisol a gynigir gennym. Rydym yn targedu adnoddau at y safleoedd mwyaf tymor hir a niweidiol yn amgylcheddol. Bydd pob adroddiad yn cael eu recordio, a byddwn yn ymchwilio i adroddiadau os a phan fydd ein llwyth gwaith yn caniatáu.

    Cliciwch 'Nesaf' i roi gwybod am achos o dorri rheolau cynllunio