Cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu ôl-weithredol

Os gwnaed gwaith adeiladu (at ôl 11 Tachwedd 1985) heb awdurdod rheoliadau adeiladu, ystyrir y gwnaed y gwaith yn ddiawdurdod. Gall hyn greu problemau wrth brynu a gwerthu eiddo.  Fodd bynnag mae modd gwneud cais am awdurdod ar gyfer y gwaith drwy gyflwyno cais rheoleiddio.

Ffurflen gais rheoleiddio (PDF, 2.43MB)

Costau

Bydd costau’n daladwy am asesu eich cais, cynnal archwiliadau ar y safle, a chyhoeddi tystysgrif rheoleiddio. Y ffi fydd 150% o’r pris a ddangosir yn y rhestr brisiau (nid fydd TAW yn berthnasol i gais o’r fath).

Canllawiau ar gyfer taliadau rheoliadau adeiladu (PDF, 198KB)

Os nad ydych yn siŵr pa bris fydd yn berthnasol i’ch cais chi cysylltwch â built.environment@denbighshire.gov.uk  gan roi manylion y gwaith y byddwch yn ei wneud ac fe wnawn eich cynghori.