Gofynion Newydd ar gyfer Diogelwch Adeiladau yng Nghymru
O 1 Gorffennaf 2026 ymlaen, bydd newidiadau i ddeddfwriaeth adeiladu yng Nghymru yn cyflwyno trefn diogelwch adeiladau newydd a fydd yn effeithio ar y ffordd y mae gwaith adeiladu’n cael ei ddylunio, ei gymeradwyo a’i gyflawni.
Mae’r newidiadau hyn yn ffurfio rhan o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 a Rheoliadau Cymreig cysylltiedig.
Ar gyfer Sir Ddinbych, bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar waith adeiladu safonol a wneir gan berchnogion tai, adeiladwyr a datblygwyr yn bennaf.
Beth sy’n newid?
1. Cyfrifoldebau newydd ar gyfer y rheiny sy’n gwneud gwaith adeiladu
Bydd pob prosiect adeiladu’n atebol i system deiliaid dyletswyddau newydd.
Golyga hyn:
- Fod gan gleientiaid, dylunwyr a chontractwyr gyfrifoldebau cyfreithiol clir
- Mae’n rhaid iddynt sicrhau bod gwaith yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu trwy gydol y prosiect
- Nid ar ysgwyddau’r adran Rheoli Adeiladu yn unig y mae’r cyfrifoldeb ar ddiwedd prosiect mwyach.
Mae hyn yn newid sylweddol yn y ffordd mae cydymffurfiaeth yn cael ei rheoli.
2. Mwy o bwyslais ar gynllunio a chydymffurfiaeth o’r dechrau
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr:
- Sicrhau bod dyluniadau’n gyflawn ac yn cydymffurfio cyn i’r gwaith ddechrau
- Darparu gwybodaeth gywir i adran Rheoli Adeiladu
- Cynnal cofnodion da o benderfyniadau a newidiadau.
Gall cyflwyniadau anghyflawn neu rai sydd wedi eu paratoi’n wael arwain at oedi neu wrthod cais.
3. Pwerau gorfodi cryfach ar gyfer awdurdodau lleol
O fis Gorffennaf 2026 bydd gan Gyngor Sir Ddinbych bwerau ychwanegol i:
- Roi hysbysiadau cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i broblemau gael eu cywiro
- Rhoi hysbysiadau stop i rwystro gwaith anniogel neu waith nad yw’n cydymffurfio
- Cymryd camau gorfodi dros gyfnod hwy (hyd at 10 mlynedd mewn rhai achosion).
Bwriedir y pwerau hyn i wella safonau ac amddiffyn diogelwch y cyhoedd.
4. Cyfyngiadau amser ar gymeradwyo
Gall cymeradwyaeth Rheoli Adeiladu ddarfod os nad yw’r gwaith yn dechrau o fewn 3 blynedd.
Efallai bydd yn rhaid i chi ailymgeisio os oes oedi yn eich prosiect.
Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer prosiectau adeiladu arferol?
Ar gyfer mwyafrif y prosiectau yn Sir Ddinbych (e.e. estyniadau i gartrefi, trawsnewid atigau, addasiadau mewnol):
Mae llwybrau ymgeisio’n dal i fod fwy neu lai yr un fath
- Ceisiadau Cynlluniau Llawn
- Hysbysiadau Adeiladu (lle bônt yn briodol).
Ond mae’n rhaid i’r ffordd yr ydych yn paratoi a rheoli prosiectau wella.
Dylech rŵan:
- Sicrhau bod dyluniadau’n bodloni Rheoliadau Adeiladu yn llawn cyn dechrau’r gwaith
- Penodi dylunwyr ac adeiladwyr cymwys
- Deall yn glir pwy sy’n gyfrifol am gydymffurfiaeth
- Cadw cofnodion o newidiadau yn ystod y gwaith adeiladu.
Enghreifftiau o waith yr effeithir arno
Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o waith adeiladu cyffredin, gan gynnwys:
- Estyniadau ac addasiadau tai
- Trawsnewid garejis
- Trawsnewid atigau
- Addasiadau strwythurol (e.e. tynnu waliau)
- Gosod systemau draenio, gwresogi neu drydanol.
Mae’n rhaid i brosiectau bach, hyd yn oed, gydymffurfio â’r fframwaith cyfrifoldeb newydd.
Beth sy’n digwydd os nad yw gwaith yn cydymffurfio?
Dan y drefn newydd:
- Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i chi gywiro neu gael gwared ag unrhyw waith nad yw’n cydymffurfio
- Mae’n bosibl y bydd gwaith yn cael ei atal ar unwaith os oes pryder am ddiogelwch
- Gellir cymryd camau gorfodi flynyddoedd ar ôl cwblhau.
Trefniadau pontio
Gall prosiectau a gyflwynwyd cyn 1 Gorffennaf 2026 fod yn atebol i drefniadau pontio, yn dibynnu ar:
- Ba bryd y gwnaed y cais
- Pa un a yw’r gwaith wedi dechrau ai peidio.
Os ydych eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth, cysylltwch ag adran Rheoli Adeiladu am gyngor.
Yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud rŵan
Os ydych yn cynllunio gwaith adeiladu:
- Siaradwch gyda’r adran Rheoli Adeiladu yn gynnar
- Sicrhewch fod eich cynlluniau’n gywir a chyflawn
- Defnyddiwch weithwyr proffesiynol cymwys a galluog
- ICaniatewch ddigon o amser ar gyfer cymeradwyo.
Cysylltu â’r adran Rheoli Adeiladu
Am gyngor ynglŷn â sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar eich prosiect, anfonwch e-bost atom.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd gennym fwy o fanylion ar gael am y drefn newydd.