Gwneud cais am ganiatâd rheoliadau adeiladu

Ceir dau fath o ganiatâd rheoliadau adeiladu y gallwch chi gyflwyno cais ar eu cyfer. Os oes gennych chi eiddo anfasnachol fe allwch chi gyflwyno cais cynlluniau llawn neu hysbysiad adeiladu. Os ydych chi’n gwneud cais rheoliadau adeiladu ar gyfer adeilad masnachol bydd arnoch chi angen cyflwyno cais cynlluniau llawn.

Cais Cynlluniau Llawn

Ar gyfer cais cynlluniau llawn bydd yn rhaid i gynlluniau ddangos y manylion adeiladu a’r cyfrifiadau adeileddol. Byddwn yn gwirio’ch cais yn fanwl, ac mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddiwygio cynlluniau cyn i ni eu cymeradwyo. Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn ychwanegu amodau at ganiatâd, a fydd angen sylw cyn y gellir cyhoeddi tystysgrif cwblhad.

Ffurflen gais cynlluniau llawn (PDF, 800KB)

Hysbysiad Adeiladu

Mae hysbysiad adeiladu yn hysbysiad o’ch bwriad i ymgymryd â gwaith adeiladu, bydd archwiliadau yn cael eu cynnal unwaith y bydd y gwaith wedi dechrau ar y safle. Os yw swyddog rheoli adeiladu yn canfod ar unrhyw adeg nad yw'r gwaith yn cydymffurfio â rheoliadau presennol, bydd gofyn i chi gywiro’r gwaith neu ddarparu rhagor o fanylion cyn y gellir cymeradwyo’r gwaith a wnaed.

Ffurflen gais ar gyfer Hysbysiad Adeiladd (PDF, 800KB)

Ffioedd

Mae ffi ynghlwm wrth y ddau gais uchod, yn dibynnu ar fath y cais.

Os ydych chi’n ansicr ynghylch pa ffi sy’n berthnasol i’ch cais chi, anfonwch neges at built.environment@denbighshire.gov.uk gan nodi manylion y gwaith arfaethedig.

Rhybudd ymlaen llaw o gynyddu’r ffi ar 1 Ebrill 2024

Bydd yr holl ffioedd rheoliadau adeiladu a restrir yn Nhablau A i D yn y ddogfen isod yn cynyddu 15% ar 1 Ebrill 2024.

Canllawiau ar gyfer taliadau rheoliadau adeiladu (PDF, 198KB)

Pam dewis rheolaeth adeiladu awdurdod lleol?

Gall ein syrfewyr rheoli adeiladu cymwys a phrofiadol gymeradwyo gwaith adeiladu i adeiladau domestig a masnachol. Rydym ni wedi ymrwymo i gynnal safonau uchel i sicrhau bod yr amgylchedd adeiledig yr ydym ni’n byw, gweithio ac yn chwarae ynddo yn ddiogel ac yn iach i bawb.

Mae yna sawl mantais wrth ddefnyddio’ch awdurdod lleol ar gyfer eich gofynion rheoliadau adeiladu, gan gynnwys;

  • Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio i helpu’ch prosiect redeg yn esmwyth
  • Byddwn yn cynnal amrywiaeth o archwiliadau safle y diwrnod ar ôl i ni dderbyn eich cais (os derbynnir y cais cyn 4.00pm) a chyngor os oes problemau’n codi
  • Gwybodaeth am yr ardal leol, hanes safleoedd ac amodau daearegol
  • Syrfëwr rheoli adeiladu ymrwymedig a thîm cefnogi technegol
  • Mynediad i swyddog ar ddyletswydd rheoli adeiladu yn ystod oriau swyddfa, dydd Llun i ddydd Gwener
  • Byddwn yn gweithio gyda’r awdurdod tân lleol a’r awdurdod dŵr i’ch cynorthwyo chi a’ch prosiect
  • Nid ydym ni’n gweithredu gwasanaeth sy’n seiliedig ar risg fel sawl darparwr amgen, rydym ni’n arolygu i’ch diogelu chi
  • Fel awdurdod lleol rydym ni’n atebol yn gyhoeddus, yn dryloyw ac yn sefydliad nid-er-elw. Mae ein ffioedd wedi’u cyhoeddi ac nid oes unrhyw gost gudd ychwanegol
  • Byddwn yn darparu tystysgrif cwblhad i chi ar ddiwedd eich prosiect