Pecyn gwaith cyflogwyr prentisiaid
Beth yw prentisiaeth?
Mae prentisiaethau yn elfen hanfodol ar gyfer cyflawni llwyddiant economaidd. Rhaglenni hyfforddiant yn seiliedig ar waith ydyn nhw sy'n caniatáu hyfforddiant ar y swydd wrth ennill cyflog ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Maent yn ffordd ardderchog o ddatblygu sgiliau o fewn ein gweithlu. Drwy gynnig prentisiaethau, nid yn unig y mae Cyngor Sir Dinbych yn helpu ein busnes ein hunain i dyfu ond maent yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy at hybu ein heconomi a sicrhau bod gan ein gweithlu y sgiliau cywir.
Dylai pob gwasanaeth asesu eu hanghenion cynllunio gweithlu ac ystyried sut y gallai cyllid prentisiaethau helpu i gefnogi hyfforddiant/gwella sgiliau a recriwtio yn y dyfodol.
Faint fydd yn ei gostio?
Mae dwy gost yn gysylltiedig â phrentisiaeth - cyflog y prentis a chost hyfforddiant. Mae Cyngor Sir Dinbych yn talu'r cyflog (isafswm cyflog prentisiaeth) ac mae Llywodraeth Cymru yn talu am yr hyfforddiant/cymhwyster drwy'r Ardoll Brentisiaethau.
Sylwch y bydd unrhyw gostau ychwanegol y tu allan i'r cytundeb yn cael eu hariannu gan y gwasanaeth. Dim ond i bobl 16-19 oed y bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn berthnasol, felly efallai y bydd yn rhaid i'r gwasanaeth ariannu fframweithiau ar gyfer pobl 20 oed a hŷn, mae hyn yn dibynnu ar feini prawf y fframwaith.
Mathau o brentisiaethau
Mae yna lefelau prentisiaethau gwahanol:
- Lefel 2 - Prentisiaeth Sylfaen
- Lefel 3 - Prentisiaeth
- Lefel 4 / 5 - Prentisiaeth Uwch
- Lefel 6 - Gradd-brentisiaeth
Gallwch ddarganfod mwy am lwybrau a lefelau prentisiaethau ar wefan Busnes Cymru (gwefan allanol).
Fframweithiau prentisiaeth
Bydd darparwyr hyfforddiant allanol yn rheoli, cyflwyno ac asesu pob fframwaith prentisiaeth, a chrëwyd eu cynnwys i sicrhau bod prentisiaid yn cael y wybodaeth a'r cymwysterau perthnasol i'w galluogi i symud ymlaen yn eu gweithle.
Mae gan Gyngor Sir Ddinbych gysylltiadau cryf â Coleg Cambria (gwefan allanol) a Grŵp Llandrillo Menai (gwefan allanol).
Mae pob fframwaith yng Nghymru yn cynnwys:
- cymhwyster cymhwysedd
- cymhwyster technegol
- cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
- chymwysterau neu ofynion eraill ar gyfer yr alwedigaeth benodol.
Mae ystod eang o brentisiaethau ar gael ac anogir cyflogwyr i ymchwilio i gynnwys y fframwaith.
Amser i hyfforddi
Rhaid i brentisiaid dreulio o leiaf 20% o'u hamser ar hyfforddiant y tu allan i'r gwaith. Fodd bynnag, efallai y bydd angen mwy na hyn arnynt, er enghraifft, os oes angen hyfforddiant arnynt mewn Saesneg a Mathemateg. Mater i'r cyflogwr a'r darparwr hyfforddiant yw penderfynu sut y darperir yr hyfforddiant y tu allan i’r gwaith.
Bydd y cyflogwr yn rhoi cyfle i brentisiaid ymarfer sgiliau newydd yn yr amgylchedd gwaith. Gelwir hyn yn hyfforddiant ar y swydd ac mae'n helpu prentis i ddatblygu'r sgiliau penodol ar gyfer y gweithle. Dylai prentisiaid gael eu cefnogi gan eu rheolwr atebol a/neu fentor. Bydd y darparwr hyfforddiant yn trefnu bod Asesydd yn ymweld â’r Prentis yn eu gweithlu eu hunain i asesu ei gynnydd.
Rôl rheolwyr atebol yn llwyddiant prentisiaeth
Mae gan reolwyr atebol rôl ganolog wrth gefnogi ac arwain prentisiaid drwy eu hyfforddiant a sicrhau eu bod yn cyflawni eu hamcanion. Mae cefnogaeth a gwaith monitro parhaus yn hanfodol i brentisiaid drwy gydol eu cyfnod dysgu.
- Dylai rheolwyr atebol ddarparu gwaith perthnasol sy'n cyd-fynd â hyfforddiant.
- Mae cyfathrebu ac adborth da yn hanfodol ar gyfer datblygiad prentisiaid.
- Mae sesiynau un i un rheolaidd yn helpu i fynd i'r afael â heriau a dathlu cyflawniadau.
- Rhaid i reolwyr ddeall y safonau prentisiaeth a chefnogi anghenion prentisiaid.
- Rhaid mynd i'r afael ag unrhyw broblemau perfformiad yn brydlon ac yn adeiladol.
- Rhaid sicrhau bod amgylchedd tîm cefnogol i'r prentis weithio ynddo.
- Dylid cynnig cefnogaeth iechyd meddwl a lles, gan gynnwys mynediad at adnoddau.
Meini prawf cymhwyso
- Dysgwyr 16-19 oed: bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi prentisiaethau (ar bob lefel), waeth pa mor hir y mae'r dysgwr wedi bod yn ei rôl.
- Dysgwyr 20 oed a hŷn: bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi prentisiaethau (ar bob lefel). Fodd bynnag, mae cyfyngiadau Lefel 2 yn ein sectorau nad ydynt yn flaenoriaeth, sef Gweinyddu Busnes, Manwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gwallt a Harddwch.
Cefnogaeth
Bydd Porth Sgiliau Busnes Cymru (gwefan allanol) yn rhoi gwybodaeth i chi am bob agwedd ar y Rhaglen Brentisiaeth. Mae ganddyn nhw dîm ymroddedig o Ymgynghorwyr Cyswllt Cyflogwyr sydd ar gael i drafod eich gofynion prentisiaeth yn fanylach.
Fel arall, gallwch drafod gydag AD / Dysgu a Datblygu neu os ydych chi'n gwybod y gofynion hyfforddi prentisiaeth i ddiwallu anghenion eich busnes, gallwch gysylltu â'r darparwyr hyfforddiant yn uniongyrchol:
Recriwtio prentis newydd
Mae yna gamau i’w dilyn wrth recriwtio i swydd prentis newydd:
Cam 1: nodi’r cyfle
Nodi swydd a all weithio fel prentisiaeth.
Cam 2: swydd-ddisgrifiad
Llunio Swydd-ddisgrifiad, Manylion am yr Unigolyn a thrafod pethau gydag AD.
Cam 3: Nodi’r fframwaith cywir
Nodwch y Fframwaith Prentisiaeth priodol ar gyfer y rôl. Gellir gwneud hyn mewn partneriaeth â'r darparwr hyfforddiant / y coleg yn uniongyrchol neu gydag AD / Dysgu a Datblygu.
Efallai yr hoffech drefnu cyfarfod gyda'r darparwr i drafod yr hyn sy'n ofynnol gennych fel rheolwr.
Cam 4: dechrau ar y gwaith papur
Mae'r broses recriwtio arferol yn berthnasol, felly mae’n rhaid llenwi’r Ffurflen Rheoli Swyddi Gweigion a'i hanfon at AD, ynghyd â'r Swydd-ddisgrifiad a’r Manylion am yr Unigolyn.
Cam 5: hysbysebu’r swydd
Yn amodol ar gymeradwyaeth Panel Recriwtio’r Tîm Gweithredol Corfforaethol (ble bo’n berthnasol), bydd AD yn prosesu’r dogfennau yn ôl yr angen ac yn hysbysebu’r swydd yn unol â’r cyfarwyddyd ar y Ffurflen Rheoli Swyddi Gweigion.
Bydd y swydd wag yn cael ei hysbysebu ar wefan Cyngor Sir Dinbych. Gall y darparwr dysgu hefyd hysbysebu drwy ei sianeli, felly cofiwch anfon dolen i'r hysbyseb atynt unwaith y bydd yn fyw.
Cam 6: llunio rhestr fer
Unwaith y bydd y swydd wag yn cau, bydd angen i chi lunio rhestr fer o’r ceisiadau yn unol â’r Polisi Recriwtio a Dethol, yna cyflwyno matrics y rhestr fer i AD ynghyd â’r ffurflen Amserlen.
Cam 7: cyfweld ymgeiswyr
Cynigiwch adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus gan y bydd yn ddefnyddiol iddyn nhw ar gyfnodau cynnar eu gyrfa.
Cam 8: penodi
Ar ôl y broses recriwtio a dethol, dylech allu penodi ymgeisydd addas. Unwaith mae’r ymgeisydd llwyddiannus wedi derbyn y cynnig ar lafar, bydd angen i chi gwblhau ffurflen benodi a’i anfon i AD at ddibenion prosesu.