Rheoli perfformiad

Ffurflen a Theclyn Sgwrsio Un i Un

Rydym yn gwybod mai ein pobl yw’n hased bwysicaf, ac rydych chi a’ch sgiliau, eich profiad a’ch gwybodaeth wrth galon popeth yr ydym yn ei wneud ac yn ei gyflawni.

Felly, rydym am ganolbwyntio arnoch chi - clywed eich meddyliau, deall eich anghenion a’ch dyheadau - a rhoi amser ac adnoddau penodedig i chi i ganolbwyntio ar hyn.

Bydd cyfarfodydd Un i Un yn eich galluogi i wneud hyn, ac yn eich helpu i gymryd cyfrifoldeb dros eich ymgysylltiad a’ch datblygiad eich hun. Defnyddiwch y cyfle hwn i archwilio beth sy’n bwysig i chi, a chael sgwrs gyda’ch rheolwr am beth sydd ei angen arnoch, a sut gallwn eich cynorthwyo i gyflawni eich amcanion.

Amlder sesiynau Un i Un

Rydym yn argymell cynnal cyfarfodydd Un i Un bob mis,  ond rydym yn deall mewn rhai adrannau nad yw hyn yn ymarferol nac yn bosib. Fodd bynnag, mae’n hanfodol eich bod yn cael o leiaf dri chyfarfod Un i Un mewn cyfnod o 12 mis, er mwyn gofalu eich bod chi a’ch Rheolwr yn cael cyfle am sgwrs.

Ar ddechrau cyfnod Un i Un newydd, bydd y rheolwr a’r gweithiwr angen cytuno ar ba mor aml y cynhelir cyfarfodydd ac ar gyfrwng y cyfarfodydd Un i Un.