Adleoli i Sir Ddinbych

Ar ôl dechrau gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych, efallai bydd gweithiwr yn gymwys i gael cymorth ariannol penodol pe bae angen iddynt adleoli o’u prif fan byw a phrynu eiddo newydd yn dilyn hynny ac adleoli i’r ardal.

Mewn achosion cymwys, bydd y cyngor yn darparu’r cyngor â lefel resymol o gymorth ariannol, na fydd mewn sawl achos yn talu’r holl gostau a gronnir ond bydd yn cyfrannu'n sylweddol tuag at y gost o adleoli.

Bydd cymorth yn cael ei ddarparu hyd at uchafswm o £8000, neu mewn achosion lle nad yw dyletswydd stamp yn daladwy ar brynu eiddo, £7000.

Polisi adleoli a thramor (PDF, 776KB)

Dogfennau cysylltiedig

Ffurflen Adleoli a Thramor (MS Word, 609KB)