Darparu geirdaon cyflogaeth

Beth yw geirda cyflogaeth?

Mae geirda cyflogaeth yn fodd o gael gwybodaeth oddi wrth drydydd parti, yn darparu gwiriad ffeithiol ar hanes cyflogaeth ymgeisydd, eu profiad a/neu asesiad o addasrwydd ymgeisydd ar gyfer y swydd dan sylw.

Efallai y defnyddir geirda i wirio tystiolaeth ffeithiol e.e. cadw amser, perfformiad a datblygiad cyffredinol.

Bwriad y cyngor yw ymateb i’r holl geisiadau am eirda ar gyfer gweithwyr cyfredol a chyn-weithwyr gyda geirda teg a boddhaol sy’n gywir, gwrthrychol ac yn wir.

Mae’r cyngor yn cydnabod ei ddyletswydd gofal tuag at dderbynnydd y geirda e.e. cyflogwr posibl a'r ymgeisydd, felly bydd y geirda a ddarperir yn rhoi cynrychiolaeth deg o’r person dan sylw.

Ni fydd y cyngor dan unrhyw amgylchiadau yn rhoi geirda ffafriol er mwyn cael gwared ar weithiwr sy’n perfformio’n wael neu broblemus. Yn yr un modd, ni fydd y cyngor yn darparu geirda ffug neu gamarweiniol er mwyn bod yn faleisus am ymgeisydd.

Cyfrifoldebau Rheolwyr

Mae gan Gyngor Sir Ddinbych gyfrifoldeb i ymateb yn briodol i unrhyw gais am eirda cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • Ymateb mewn modd amserol i unrhyw geisiadau am eirda;
  • Cymryd gofal wrth lunio neu gaffael yr wybodaeth mae’r geirda yn seiliedig arni; a
  • Sicrhau bod unrhyw wybodaeth a roddir mewn geirda yn gywir, yn ffeithiol ddibynadwy ac nid yw’n gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd.

Gallai â methu cadw at y dyletswyddau hyn olygu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr un sy’n rhoi geirda gan naill ai'r un sy’n gofyn am eirda neu’r person y rhoddir y geirda amdanynt.

Polisi darparu geirdaon cyflogaeth

Darparu geirda

Wrth ysgrifennu geirda, mae dyletswydd ar ddarparwyr geirda i gymryd gofal a darparu gwybodaeth sy’n gywir, yn wir ac yn deg ac nid yw’n rhoi argraff gamarweiniol.

Pwy ddylai roi geirda?

Y rheolwr atebol cyfredol neu’r cyn-reolwr atebol ddylai roi geirda. Lle nad yw hyn yn bosibl (e.e. nid yw’r cyn-reolwr bellach wedi’i gyflogi gan y cyngor) bydd Adnoddau Dynol yn darparu geirda ffeithiol.

Dylai’r darparwr geirda lenwi’r templed geirda a ddarperir gan y sefydliad/ person sy’n gofyn am eirda. Pan nad yw'r sefydliad sy'n gofyn am eirda wedi darparu templed i’w llenwi, dylai’r darparwr geirda lenwi’r Ffurflen Geirda Corfforaethol.

Polisi a ffurflenni darparu geirdaon cyflogaeth

Unwaith bydd y geirda wedi’i lenwi gan y rheolwr, rhaid iddynt anfon y geirda at Adnodau Dynol er mwyn gwneud y gwiriadau angenrheidiol cyn iddynt ei anfon ymlaen. Bydd Adnoddau Dynol hefyd yn rhoi copi ar y ffeil bersonél.

Polisi - Darparu Geirda Cyflogaeth (PDF, 2MB)