Gweithwyr asiantaeth

Caiff gweithiwr asiantaeth ei ddiffinio fel ‘unigolyn sy’n cael ei gyflenwi gan asiantaeth i weithio dros dro ar gyfer cyflogwr ac o dan eu goruchwyliaeth a chyfarwyddyd’.

Nid oes gan weithwyr asiantaeth sydd ar aseiniad gyda'r cyngor gontract cyflogaeth gyda Cyngor Sir Ddinbych.

Mae gweithwyr asiantaeth yn parhau fel gweithiwr i’r asiantaeth gyflenwi.

Polisi Weithwyr Asiantaeth (PDF, 301KB)

Pam defnyddio gweithiwr asiantaeth?

Yn amodol ar y prosesau cymeradwyo priodol, gall fod yn bosibl cymryd gweithwyr asiantaeth yn yr amgylchiadau canlynol:

  • I ddarparu gwasanaeth am brinder staff tymor byr, na ragwelwyd a/neu annisgwyl;
  • I ddarparu sgiliau arbenigol nad ydynt ar gael o fewn y cyngor;
  • I gynorthwyo yn ystod cyfnodau lle mae’r llwyth gwaith yn brysur;
  • I ymgymryd â phrosiect neu dasg tymor byr; neu
  • I ddarparu gwasanaethau ar gyfer gwasanaeth penodol neu i ddiwallu angen penodol, lle mae defnydd o’r fath yn cael ei gymeradwyo am resymau sefydliadol.

Sylwer: Os oes angen wedi’i nodi am adnodd ychwanegol, dylai rheolwyr yn y lle cyntaf archwilio’r holl gyfleoedd i ddefnyddio’r adnoddau staffio sydd ar gael o fewn y cyngor. Nid yw hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle gallai’r gost fod yn ataliol megis rhoi goramser a thaliadau ychwanegol eraill. Os yw hyn yn aflwyddiannus, dylai rheolwyr wedyn geisio llenwi’r swydd trwy ein proses recriwtio. Dim ond yn yr amgylchiadau lle mae'r opsiynau hyn wedi cael eu harchwilio ond wedi bod yn amhosibl, y dylid cyflwyno cais am weithiwr asiantaeth i’r Matrics.

Cyflogi gweithwyr asiantaeth

Dylid delio ag unrhyw geisiadau am weithwyr asiantaeth trwy'r system Matrics. Pe bai rheolwr yn nodi bod angen cael gwasanaethau asiantaeth sydd heb ei henwi ar y system Matrics, byddai angen cymeradwyaeth a/neu drefniadau tendro ar wahân. I gael mwy o wybodaeth am y broses dendro, cysylltwch â Rheolwr Contractau'r Asiantaeth.

Rhaid i’r Pennaeth Gwasanaeth a’r Swyddog Cyllid awdurdodi cyflogi gweithwyr asiantaeth gan y cyngor, cyn defnyddio’r Matrics.

Ble medra i gael cyngor am weithwyr dros dro a’r broses?

Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’ch Partner Busnes AD a thrafod eich gofynion.

Dogfennau cysylltiedig

Canllaw - Oriau heb eu Gwarantu ac Chytundebau Ymhlyg (PDF, 850KB)