Hawl i weithio yn y DU

O dan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 1996 mae’n drosedd i gyflogwr gyflogi rhywun sydd heb ganiatâd i fyw neu weithio yn y Deyrnas Unedig. Mae’n gofyn bod holl gyflogwyr y DU yn cynnal gwiriadau dogfen sylfaenol ar bob unigolyn maent yn bwriadu eu cyflogi. Yn sgil y newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, o 1 Ionawr 2021, bydd AD yn cynnal y gwiriadau hyn.

O 1 Ionawr, 2021, mae’r DU wedi cyflwyno mesurau newydd ar gyfer cymeradwyo preswyl a’r hawl i weithio yn y DU yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nes 30 Mehefin, 2021, bydd dinasyddion o wlad yn Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir (gan gynnwys aelodau o’r teulu a’r sawl mewn perthynas â dinesydd o wlad yn Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir) yn parhau i ddangos tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU, yn yr un modd â chyn mis Ionawr 2021. Gweler isod.

Yn ystod Cyfnod o Ras (1 Ionawr i 30 Mehefin) efallai bydd ymgeiswyr yn dewis cyflwyno eu tystiolaeth ar un o'r ddau fformat (ar-lein neu gyda llaw). Yn dilyn y cyfnod hwn, bydd gwiriadau hawl i weithio yn cael eu gwneud ar y system ar-lein.

Ni fydd darpar weithwyr yn gallu dechrau ar eu cyflogaeth nes y gwiriwyd y ddogfennaeth ofynnol, ei chopïo, ei llofnodi a’i ddyddio. Mae cynigion cyflogaeth yn amodol ar dystiolaeth bod gan y darpar weithiwr hawl i weithio yn y DU.

Darparu tystiolaeth ar y system ar-lein

Gall y sawl sy’n dymuno cyflwyno eu tystiolaeth o’u Statws Setlo a'u hawl i weithio yn y DU gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein y Swyddfa Gartref wneud hynny drwy fynd i GOV.UK: Prove your right to work to an employer (gwefan allanol).

Gallwch anfon y cod cyswllt mewn e-bost at hrdirect@denbighshire.gov.uk neu gynhyrchu e-bost i’r un cyfeiriad drwy’r system ar-lein. Bydd y Tîm AD yn gwirio eu hawl i weithio yn y DU drwy GOV.UK: View a job applicant's right to work details (gwefan allanol) ac yn hysbysu’r rheolwr recriwtio.

Darparu tystiolaeth yn y ffordd draddodiadol

Nes 30 Mehefin, 2021, gall ddinasyddion o wlad yn Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir ddangos eu hawl i weithio yn y DU drwy gyflwyno dogfen dderbyniol. Mae’r canllawiau hyn yn gymwys i aelodau teulu nad ydynt yn ddinasyddion o wlad yn Ardal Economaidd Ewropeaidd, dinasyddion nad ydynt yn rhan o wlad yn Ardal Economaidd Ewropeaidd gyda Hawl Preswyl Deilliadol.

Gweler amlinelliad o’r dogfennau derbyniol yma:

Canllaw: hawl i weithio yn y DU (PDF, 212KB)

Cyflogi dinasyddion o wlad tu allan i Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir

Os ydych yn aelod teulu o wlad tu allan i Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn ddinesydd o wlad tu allan i Ardal Economaidd Ewropeaidd gyda Hawl Preswyl Deilliadol, gweler y ddau ddewis uchod ar gyfer dangos eich hawl i weithio yn y DU.

O 1 Ionawr, 2021, daeth rhyddid i symud i ben yn y DU, ac mae'n rhaid i gyflogwyr gael Trwydded Noddwr er mwyn cyflogi dinasyddion o wledydd tu allan i farchnad llafur preswyl y DU (h.y. ymgeiswyr sydd angen gwneud cais i weithio yn y DU drwy Lwybr Gweithiwr Medrus).

Ailwirio

Os oes terfyn amser ar gyfnod yr ymgeisydd llwyddiannus fel preswyliwr yn y Deyrnas Unedig, gwneir gwiriadau o’u dogfennau yn unol â’r dyddiadau ar eu dogfen dull adnabod.

Mae unrhyw gynnig o swydd yn dibynnu ar dystiolaeth fod gan yr ymgeisydd ganiatâd i weithio yn y Deyrnas Unedig. Pan mae ymgeisydd wedi gwneud cais am estyniad i’w teitheb, nid yw hyn yn cyfri fel tystiolaeth o hawl i weithio yn y DU.

Gwirio hawl ymgeisydd am swydd i ddogfennau gweithio

Gellir canfod canllawiau pellach ar dogfennau ‘hawl i weithio’ ymgeisydd am swydd ar GOV.UK: Checking a job applicant's right to work (gwefan allanol)