Secondiad

Beth yw secondiad?

Mae dau fath o secondiad, secondiad mewnol a secondiad allanol.

Secondiad mewnol

Secondiad mewnol yw trosglwyddo gweithiwr dros dro i swydd arall o fewn Cyngor Sir Ddinbych. Bydd y secondiad fel arfer at ddiben penodol ac yn amrywio o 3 mis i 24 mis. Fel cyfle secondiad, bydd y gweithiwr sy’n llwyddiannus gyda’u cais yn gallu ymgymryd â'r secondiad gyda'r sicrwydd bod eu swydd bresennol yn parhau i fod yn 'agored' iddynt ddychwelyd iddi.

Secondiad allanol

Secondiad allanol yw trosglwyddiad gweithiwr i gorff llywodraeth neu bartneriaeth cwmni arall dros dro. Mae hyd y secondiad yn ôl disgresiwn y sefydliad allanol. Fel cyfle secondiad, bydd y gweithiwr sy’n llwyddiannus gyda’u cais yn gallu ymgymryd â'r secondiad gyda'r sicrwydd bod eu swydd bresennol yn parhau i fod yn 'agored' iddynt ddychwelyd iddi.

Polisi Secondiad (PDF, 1.33MB)