Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy
Mynd yn syth i
Un o brosiectau Sir Ddinbych yn Gweithio yw Cymunedau am Waith. Gwasanaeth cyngor cymunedol ydyw sy’n gweithio i gynyddu cyflogadwyedd unigolion nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant ac sy’n wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.
Gall cymunedau am waith roi cefnogaeth i chi er mwyn helpu i feithrin eich hyder, ennill rhywfaint o brofiad gwaith, dysgu sgiliau newydd neu ailysgrifennu eich CV. Bydd cymunedau am waith yn eich helpu chi fel unigolyn ac yn cwrdd â chi yn eich cymuned leol.
Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Cymunedau am Waith a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Beth yw manteision Cymunedau am Waith?
Bydd Cymunedau am Waith yn darparu cefnogaeth a mentora dwys i chi, gan eich helpu i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.
Sut mae'n gweithio?
Bydd gennych eich cynghorydd neu eich mentor eich hun a fydd yn cwrdd â chi mewn man cyfleus yn eich ardal. Byddant yn edrych i weld pa help sydd ei angen arnoch pan fyddant yn cyfarfod â chi, a byddant yn cytuno ar y camau nesaf gyda chi. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i ymuno â Chymunedau am Waith, chi sydd i benderfynu a yw Cymunedau am Waith ar eich cyfer chi yn dilyn eich cyfarfod â’ch cynghorydd neu eich mentor. Os byddwch yn penderfynu ymuno â Chymunedau am Waith, bydd eich cynghorydd neu eich mentor yn trefnu cyfarfod neu’n cysylltu â chi yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i ddechrau gweithio.
Mae gen i ddiddordeb mewn Cymunedau am Waith. Beth sydd angen i mi ei wneud?
Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen isod:
Cysylltu â ni: Sir Ddinbych yn Gweithio
Beth yw Cymunedau am Waith a Mwy?
Un o brosiectau Sir Ddinbych yn Gweithio yw Cymunedau am Waith. Mae’n darparu cefnogaeth cyflogaeth ymgynghorol arbenigol a mentora dwys ar gyfer pobl sydd naill ai mewn, neu mewn perygl o fod mewn tlodi nad ydynt yn gymwys am raglenni Cymunedau am Waith, PaCe neu raglenni rhanbarthol eraill a ariennir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd ac sy'n wyneb rhwystrau cymhleth rhag cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant.
Gall Cymunedau am Waith a Mwy roi cefnogaeth i chi er mwyn helpu i feithrin eich hyder, ennill rhywfaint o brofiad gwaith, dysgu sgiliau newydd, ailysgrifennu eich CV a’ch helpu i gael gwaith. Bydd Cymunedau am Waith a Mwy yn eich helpu chi fel unigolyn ac yn cwrdd â chi yn eich cymuned leol.
Beth yw manteision Cymunedau am Waith a Mwy?
Bydd Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu cefnogaeth a mentora dwys i chi, gan eich helpu i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.
Sut mae'n gweithio?
Bydd gennych eich mentor eich hun a fydd yn cyfarfod â chi mewn man cyfleus yn eich ardal chi. Bydd yn edrych i weld pa help sydd ei angen arnoch pan fydd yn cyfarfod â chi, a bydd yn cytuno ar y camau nesaf gyda chi. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i ymuno â Chymunedau am Waith a Mwy, chi sydd i benderfynu a yw Cymunedau am Waith a Mwy ar eich cyfer chi yn dilyn eich cyfarfod â’ch mentor. Os byddwch yn penderfynu ymuno â Chymunedau am Waith a Mwy, bydd eich mentor yn trefnu cyfarfod neu’n cysylltu â chi yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i ddechrau gweithio.
Mae gen i ddiddordeb mewn Cymunedau am Waith a Mwy. Beth sydd angen i mi ei wneud?
Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen isod:
Cysylltu â ni: Sir Ddinbych yn Gweithio