Sir Ddinbych yn Gweithio: Gwybodaeth i weithwyr

Gweithio gyda ni: Ein cefnogaeth i gyflogwyr

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn helpu pobl leol oresgyn rhwystrau i waith, addysg a hyfforddiant fel y gallant wneud gwahaniaeth parhaol i'w bywydau.

Mae gennym dîm Ymgysylltu â Chyflogwyr penodol sy’n gweithio gydag ystod o gyflogwyr ar draws Sir Ddinbych i ddarparu ystod eang o wasanaethau i helpu i fodloni anghenion cyfnewidiol y farchnad lafur leol.

Sut y gallwn ni weithio gyda chi

Gallwn:

  • Eich helpu i ddod yn gyflogwr sy’n ymwybodol yn gymdeithasol
  • Eich helpu i ddod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd
  • Cefnogi eich anghenion recriwtio
  • Hysbysebu eich swyddi gwag ar-lein
  • Eich cefnogi mewn ffeiriau swyddi a digwyddiadau rhwydweithio
  • Eich helpu i fynd i’r afael â bylchau mewn sgiliau
  • Helpu i lywio gwasanaethau cefnogi a chynghori

Cysylltu â ni

Dewch yn gyflogwr sy'n ymwybodol yn gymdeithasol

Ymunwch â rhwydwaith sy’n tyfu o gyflogwyr sy’n ymwybodol yn gymdeithasol ac sy'n gweithio gyda ni i wneud gwahaniaeth parhaol i'r gymuned leol. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i gefnogi pobl sydd eisiau gwaith ond sy'n wynebu rhwystrau i gael swydd. Gallai eich busnes helpu'r bobl hyn a bod yn rhan o’r datrysiad i ddiweithdra hirdymor yn Sir Ddinbych.

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Gallwn eich cefnogi i gael Achrediad Hyderus o ran Anabledd sy'n annog ac yn gwobrwyo cyflogwyr sy'n sicrhau bod ganddynt swyddi ar gael i bobl ag anableddau. Mae gennym gefnogwyr anabledd a all eich cefnogi drwy'r broses a'ch helpu i gael cyllid Mynediad at Waith sy'n helpu'r cyflogwr wneud addasiadau rhesymol i weithiwr ag anableddau.

Cefnogi eich anghenion recriwtio

Rhowch wybod i ni beth yw eich anghenion recriwtio a gall Sir Ddinbych yn Gweithio ddarparu gwasanaeth recriwtio pwrpasol i helpu i ddod o hyd i gyfranogwyr â'r sgiliau a diddordebau sy'n cyd-fynd â'r cyfleoedd rydych yn eu cynnig. Rydym yn cefnogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli a gweithio yn ogystal â gweithio gyda chyflogwyr lleol i greu cyfleoedd newydd.

Hysbysebu eich swyddi gwag ar-lein

Gall ein cyfranogwyr a phreswylwyr lleol weld eich swyddi gwag ar ein gwefan, Swyddi DEN. Mae hwn am ddim a gallwch hysbysebu hynny a fynnoch o swyddi gwag.

Ffeiriau swyddi a digwyddiadau rhwydweithio

Rydym yn cynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys ffeiriau swyddi a digwyddiadau gyrfaoedd. Mae'r rhain yn ffyrdd wych o hyrwyddo eich cyfleoedd ac o rwydweithio â busnesau eraill. Gallwn hefyd hwyluso digwyddiadau pwrpasol i chi, yn cynnwys gweithdai a sesiynau recriwtio.

Mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau

Gall Sir Ddinbych yn Gweithio helpu i ddatblygu cyfranogwyr, gan roi’r sgiliau y mae ar eich busnes ei angen iddynt. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau (rhai wedi eu hariannu’n llawn) mewn ystod eang o sectorau cyflogaeth i baratoi pobl ar gyfer y gweithle.

Llywio cefnogaeth a chyngor

Byddwn yn helpu i'ch llywio at ddarparwyr a sefydliadau eraill a all roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gyfer eich busnes, a'ch cysylltu â nhw.