Sir Ddinbych yn Gweithio: Ffair Swyddi
Ymunwch â ni yn ein Ffair Swyddi i:
- ddarganfod cyfleoedd am swyddi gyda chyflogwyr lleol
- edrych ar lwybrau gyrfa ac opsiynau am hyfforddiant
- cymryd y cam cyntaf tuag at eich cyfle mawr nesaf
Pwy sy'n cael dod?
Gall unrhyw un ddod i’n Ffair Swyddi ni – i chwilio am swydd neu os ydych ond eisiau gweld beth sydd ar gael. Ein ffair swyddi ni yw’r lle perffaith i ddechrau.
Pryd a ble mae'r ffair swyddi nesaf yn cael ei chynnal?
Mae ein Ffair Swyddi nesaf yn cael ei chynnal o 10am tan 2pm, ddydd Mercher 25 Chwefror 2026 yn Bwyty a Bar 1891:
Cyfeiriad Bwyty a Bar 1891 yw:
Theatr y Pafiliwn
East Parade
Y Rhyl
Sirddinbych
LL18 3AQ
Ydych chi’n edrych am newid eich gyrfa? Ymunwch â ni yn Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio a chysylltu â chyflogwyr lleol sy’n cynnig ystod eang o gyfleoedd ym mhob sector. Os ydych yn chwilio am waith llawn amser, rhan amser, tymhorol neu ddewisiadau hyfforddi, bwriad y digwyddiad hwn yw eich helpu i gymryd y cam nesaf.
Beth i'w ddisgwyl
- Cyfarfod â chyflogwyr wyneb yn wyneb
- Archwilio swyddi gweigion presennol
- Dysgu am hyfforddiant a gwasanaethau cefnogi
- Cael cyngor am CV a cheisiadau
Pwy ddylai fynychu?
- Pobl o bob oed a lefelau profiad sy’n chwilio am swydd
- Pobl sy’n dymuno newid gyrfa neu’n chwilio am gyfleoedd newydd
- Unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyflogaeth a datblygu sgiliau’n lleol
Mynediad: Am ddim - dim angen cadw lle.
Sut i gymryd rhan
Gall unrhyw un ddod i’n Ffair Swyddi ni. Does dim angen apwyntiad – maen nhw am ddim.
Cysylltu â ni
- Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi.
- Ffoniwch ni - 01745 331438 / 07342 070635.
Dilynwch ni