Credyd Cynhwysol i landlordiaid

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli chwe budd-dal sy’n cynnwys budd-dal tai ac yn cael ei reoli gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd yna elfen dai yn rhan ohono sydd yn cael ei dalu i’r tenant sy’n gyfrifol am dalu eu rhent eu hunain, neu mewn rhai achosion, gellir ei dalu’n uniongyrchol i’r landlord.

Yr hyn sydd arnoch angen ei wybod fel landlord

Dim ond ar-lein y gellir gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Mae gwybodaeth i wirio cymhwysedd a gwneud cais ar gael yn www.sirddinbych.gov.uk/credydcynhwysol

Ni fydd rhai o’r tenantiaid sy’n symud i Gredyd Cynhwysol wedi arfer rheoli eu taliadau rhent eu hunain. Efallai y bydd tenantiaid angen cymorth gyda:

  • taliadau rhent
  • cyfrifon banc
  • debyd uniongyrchol
  • taliadau misol

Mae cymorth a chyngor ar gael gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol (gwefan allanol).

Rhagor o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol i landlordiaid o Adran Gwaith a Phensiynau (gwefan allanol).

Taliadau i landlordiaid

Gellir talu elfen tai'r Credyd Cynhwysol yn uniongyrchol i’r landlordiaid mewn rhai amgylchiadau.

Gwneud cais am daliad rhent yn uniongyrchol

Gallwch wneud cais am daliad rhent uniongyrchol, neu ddidyniad ôl-ddyledion rhent os ydych chi’n landlord.

Darganfyddwch sut i wneud cais am daliad rhent uniongyrchol ar gov.uk (gwefan allanol)

Cewch ragor o wybodaeth yng nghanllaw Cefnogaeth Gyllido Personol a Threfniadau Talu Amgen:

Cefnogaeth Gyllido Personol a Threfniadau Talu Amgen (PDF) (gwefan allanol)

Cefnogi eich tenant

Gallwch fynd i www.sirddinbych.gov.uk/credydcynhwysol neu gyfeirio eich tenant i’r wefan i gael gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer Credyd Cynhwysol.