Os ydych yn landlord eiddo yn Sir Ddinbych, drwy ein Cynnig i Landlordiaid, hoffem ddefnyddio eich eiddo am 6 mis i helpu unigolyn neu deulu digartref.
Manteision y Cynnig i Landlordiaid
Gyda’n Cynnig i Landlordiaid, byddwch yn cael:
- 6 mis o rent ymlaen llaw
- blaendal
- bydd Cyngor Sir Ddinbych yn rheoli’r eiddo am y 6 mis cyntaf
- cymelldaliad ar ddiwedd y 6 mis os bydd y preswylydd yn cymryd drosodd y denantiaeth
- cefnogaeth barhaus drwy ein gwasanaethau cefnogi pobl a chynnal tenantiaeth
- hyfforddiant barod i rentu yn cael ei gynnig i denantiaid
- byddwn yn cefnogi’r bobl rydym yn eu hailgartrefu yn eich eiddo
Beth fyddwch ei angen
Byddwch angen darparu’r canlynol i fod yn gymwys ar gyfer y Cynnig i Landlordiaid:
- Tystysgrif Diogelwch Nwy
- Adroddiad Cyflwr Trydanol
- Tystysgrif Perfformiad Ynni
- Trwydded Rhentu Doeth Cymru
- Yswiriant Landlord
- Prawf Perchnogaeth
Sut i ymgeisio
Gallwch ymgeisio am y Cynnig i Landlordiaid arlein.
Ymgeisio am y Cynnig i Landlordiaid arlein
Ar ôl 6 mis
Bydd chwe mis cyntaf y Cynnig i Landlordiaid yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod y bobl rydym wedi eu lleoli ac ar ôl 6 mis, hoffem i chi gofrestru ar gyfer tenantiaeth fyrddaliol sicr gyda’r unigolyn neu’r teulu hwnnw.
Rhagor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am y Cynnig i Landlordiaid.
Cysylltwch â'r tîm atal digartrefedd