Rhoi gwybod am eiddo gwag neu adfeiliedig

Os ydych chi’n pryderu ynghylch eiddo gwag neu adfeiliedig, fe allwch chi gysylltu â ni i roi gwybod i ni.

Cysylltu â ni: Tai

Beth wnawn ni yn ei gylch?

Pan rydych chi’n rhoi gwybod i ni am eiddo gwag neu adfeiliedig, byddwn yn dod o hyd i’r perchennog a gweithio gyda’r perchennog i sicrhau bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio eto.

Byddwn yn dwyn achos yn erbyn perchnogion eiddo gwag ac adfeiliedig pan fo tystiolaeth o’r canlynol: 

  • ysbwriel yn hel
  • pla cnofilod, yn arbennig llygod mawr
  • risg o niwed i blant ac i unrhyw un arall sy’n mynd i mewn i’r eiddo
  • defnyddwyr cyffuriau yn mynd i mewn i’r eiddo ac yn gadael chwistrellau
  • adeiladau adfeiliedig wedi eu hesgeuluso sy’n ddolur llygad, ac sy’n cael effaith andwyol ar y gymdogaeth

Beth rydym ni'n ei wneud ynghylch tai gwag?

Rydym ni’n gweithio gyda Chymdeithas Tai Gogledd Cymru i adnewyddu tai sydd wedi bod yn wag ers 6 mis neu fwy ac i’w gwneud yn gartrefi unwaith eto.

Rydym ni hefyd yn gweithio â pherchnogion tai gwag drwy ddarparu cymorth a chefnogaeth i werthu’r tŷ, ei rentu neu ei atgyweirio. Os ydych chi’n berchen ar dŷ gwag yn Sir Ddinbych, cysylltwch â ni i weld sut gallwn ni eich helpu.

Fe allwch chi dderbyn mwy o wybodaeth am yr hyn rydym ni’n ei wneud ynghylch tai gwag yn Sir Ddinbych yn ein cynllun ymdrin â thai gwag.