Safonau tai preifat

Os ydych chi’n rhentu’ch tŷ gan landlord preifat yn Sir Ddinbych, byddwn yn sicrhau bod y tŷ yn cyrraedd safon dda; h.y. yn addas, diogel ac yn gyfforddus.

Pa safonau y gallaf eu disgwyl?

Mae’n ddyletswydd ar landlordiaid i gynnal a chadw eu heiddo drwy wneud atgyweiriadau angenrheidiol ac mae’n ddyletswydd ar denantiaid i gadw’r eiddo mewn cyflwr da. Mae’r safonau y gallwch eu disgwyl a’ch cyfrifoldebau chi fel tenant wedi eu nodi yn eich cytundeb tenantiaeth. Mae hwn yn ganllaw cyffredinol o’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl.

Fel rheol, bydd landlordiaid yn gyfrifol am yr adeilad ei hun a thu allan yr adeilad, am wasanaethau hanfodol fel dŵr, nwy a thrydan ac am ddraenio. Fel arfer, mae’r tenant yn gyfrifol am beintio a phapuro’r ystafelloedd ac am edrych ar ôl yr ardd – ond bydd hyn yn dibynnu ar eich cytundeb gyda’ch landlord.

Beth os nad ydi fy nhŷ yn cyrraedd y safonau hyn?

Os nad ydych chi’n teimlo bod eich tŷ’n cael ei gynnal a’i gadw’n briodol, yn y lle cyntaf, fe ddylech chi gysylltu â’ch landlord a rhoi amser rhesymol i’ch landlord wneud yr atgyweiriadau. Os nad ydi’ch landlord yn gwneud y gwaith, fe allwch chi gysylltu â ni i drafod eich pryderon ac mi wnawn ni ymchwilio i mewn i’r mater.

Cysylltu â ni: Tai

Mae’r ffordd y byddwn yn datrys y mater yn dibynnu ar ddifrifoldeb y mater. Fe all olygu sgwrs anffurfiol gyda’ch landlord neu roi rhybudd i’ch landlord sy’n rhoi cyfnod penodol iddyn nhw wneud yr atgyweiriadau. Byddwch yn cael swyddog achos a fydd yn rhoi gwybod i chi beth sy’n cael ei wneud i ddatrys y mater.