Eithriad Treth y Cyngor ar gyfer Llochesau (Esemptiad Dosbarth Y)

Os yw eiddo yn cael ei ddefnyddio fel lloches, fe all fod yn gymwys i gael ei eithrio rhag Treth y Cyngor os yw’n bodloni meini prawf penodol.

Beth sydd ar gael?

Os cymeradwyir cais, bydd eithriad llawn yn cael ei roi ar gyfer yr eiddo, sy’n golygu na fyddwn yn codi Treth y Cyngor arno.

Pa eiddo sy’n gymwys?

Gellir rhoi Eithriad Dosbarth Y i eiddo a ddefnyddir fel llochesau sy’n darparu llety brys i bobl sy’n dianc o gamdriniaeth. Mae hynny’n cynnwys goroeswyr:

  • Cam-drin domestig
  • Trais ar sail rhywedd
  • Trais rhywiol

Gellir gwneud cais am yr eithriad hwn ar gyfer bob math o lety, ond mae’n rhaid i’r eiddo fod:

  • wedi’i ddarparu gan awdurdod lleol yng Nghrymu; neu
  • wedi’i redeg gan sefydliad ar ran awdurdod lleol yng Nghymru

Dim ond llochesau a gydnabyddir yn ffurfiol ac a gefnogir drwy drefniadau comisiynu cyhoeddus sy’n gymwys.

Nid yw’r canlynol yn gymwys:

  • Gwasanaethau a ddarperir yn annibynnol heb gymeradwyaeth neu gefnogaeth awdurdod lleol (yn cynnwys llochesau preifat heb eu comisiynu)
  • Llety cyffredinol i bobl ddigartref
  • Llety dros dro nad yw’n darparu’n benodol ar gyfer goroeswyr camdriniaeth
  • Tai â chefnogaeth a ddefnyddir fel preswylfeydd hirdymor

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi wneud cais am y eithriad hwn ar-lein.

Gwneud Cais am Eithriad Dosbarth Y ar-lein

Changes in circumstances

Newid mewn amgylchiadau

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newid a all effeithio ar eich cais. Os na wnewch chi hynny, gallwn dynnu’r gostyngiad yn ôl a gofyn i chi dalu’r gyfradd lawn.

Cysylltwch â ni i roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.