Diweddaraf am coronafeirws
Rydym yn deall y bydd llawer o bobl yn cael eu heffeithio'n ariannol gan COVID-19. Anogwn gwsmeriaid a fydd yn cael trafferth i dalu eu treth gyngor i gysylltu ag aelod o'r tîm lle byddwn yn gallu cynnig cymorth a chyngor i chi ar sut y gellir ei dalu, ac unrhyw gymorth y gellir ei gynnig.
Os yw eich incwm wedi gostwng, efallai y bydd gennych hawl i wneud cais am gostyngiadau’r dreth gyngor. Gorau po gyntaf y gwnewch chi hyn po gynharaf y bydd eich cais yn cael ei dalu os byddwch yn gymwys. Gallwch hefyd wirio eich cymhwyster ar gyfer budd-daliadau eraill drwy ymweld â gov.uk/benefits (gwefan allanol).
Os hoffech gysylltu â ni ynghylch eich treth gyngor, anfonwch e-bost at refeniw@sirddinbych.gov.uk, neu os oes brys, ffoniwch 01824 706000.
Ar hyn o bryd rydym yn derbyn nifer uchel iawn o alwadau felly byddem yn annog cwsmeriaid i ddefnyddio ein gwefan/ceisiadau ar-lein lle bo modd.
Am y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau a'n cyngor ewch i sirddinbych.gov.uk/coronafeirws