Treth y Cyngor: Incwm a gwariant

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Cyn i chi lenwi’r ffurflen hon

    Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen hon i wneud cais am drefniant arbennig i ad-dalu eich dyledion Treth y Cyngor.

    Bydd ond angen i chi lenwi’r ffurflen hon os oes gennych ddyledion treth y cyngor ac wedi cael gwŷs llys, neu gofynnwyd i chi lenwi’r ffurflen hon fel ein bod yn gallu asesu trefniant addas i chi.