Problemau talu treth y cyngor

Gwybodaeth am broblemau'n talu'r dreth gyngor.

Anhawster gwneud trafodyn

Cysylltwch â ni os ydych chi’n cael problemau gydag unrhyw ddull talu. 

Anhawster gyda swm sy’n ddyledus

Rhowch wybod i ni bob amser gan ei bod yn bosib y gallem eich helpu. Ond, mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n bosib osgoi camau gorfodi bob tro. 

Beth fydd yn digwydd os na fydda i’n talu neu’n talu’n hwyr?

Os na chaiff taliad ei dalu’n llawn erbyn y dyddiad dyledus, yna gellir rhoi nodyn atgoffa’n rhoi saith diwrnod i’r rhandaliad gael ei ddiweddaru.

Os byddwch yn methu efo’ch taliadau am yr eildro, gellir rhoi nodyn atgoffa arall. Ond, ni ellir rhoi dim mwy na dau nodyn atgoffa am un cyfnod bilio.

Os byddwch yn methu â diweddaru’ch taliadau ar ôl nodyn atgoffa cyntaf neu ail nodyn, fe anfonir nodyn atgoffa terfynol, yn hawlio’r swm sydd ar ôl am y flwyddyn ariannol. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gellid sefydlu trefniant arbennig drwy ddebyd uniongyrchol yn y cam yma ond byddai camau adferiad yn parhau o’r hysbysiad terfynol os caiff hwn ei ganslo. Mewn rhai achosion gellir rhoi hysbysiad terfynol heb nodyn atgoffa, e.e. pan na fydd balans wedi ei glirio ar gyfrif sydd wedi cau.

Gwŷs llys

Os na thelir yr hysbysiad terfynol (neu os na roddir trefniant arbennig ar waith a chadw ato), yna gellir cyhoeddi gwŷs llys i gael gorchymyn dyled. Mae tâl o £70 am gyhoeddi'r wŷs a fyddai'n cael ei ychwanegu at y balans sy'n weddill. Mewn rhai achosion, gellir sefydlu trefniant, gorchymyn atafaelu enillion neu atafaelu budd-daliadau ar y cam hwn ond byddai'n rhaid cynnwys costau'r wŷs.

Herio Gorchymyn Dyled

Gallwch herio ein cais am Orchymyn Dyled yng ngwrandawiad Llys yr Ynadon. Er mwyn i'r llys roi'r gorchymyn, rhaid i ni brofi’r canlynol:

  • bod eich eiddo ar Restr Bandiau Treth y Cyngor ar hyn o bryd
  • ein bod wedi cyhoeddi’r taliadau treth y cyngor blynyddol mewn papur newydd lleol
  • ein bod wedi postio eich bil a’r nodyn atgoffa i’ch cyfeiriad cywir neu’r cyfeiriad diwethaf sydd gennym ar eich cyfer
  • nid ydych wedi talu’r swm llawn ar eich bil neu eich cynllun talu.

Os bydd yr ynadon yn gweld tystiolaeth bod y pwyntiau hyn yn wir, rhaid iddynt roi’r gorchymyn dyled.

Amddiffyniadau yn erbyn Gorchymyn Dyled

Y llys fydd yn penderfynu beth sy’n cyfrif fel amddiffyniad yn erbyn Gorchymyn Dyled.

Mae’r llys yn derbyn y rhesymau hyn ar y cyfan:

  • nid oedd eich eiddo ar y rhestr brisio yn ystod y cyfnod y cronnwyd y ddyled
  • ni wnaethom osod lefel Treth y Cyngor yn gywir
  • ni wnaethom ofyn am y taliad yn unol â’r rheolau cyfreithiol
  • rydych eisoes wedi talu’r swm rydym yn gofyn amdano
  • mae’r ddyled yno ers dros chwe blynedd
  • ni wnaethom anfon yr hysbysiad atoch cyn gynted ag y dylem fod wedi gwneud hynny
  • mae'r ddyled ar gyfer cosb rydych chi'n apelio yn ei herbyn ar hyn o bryd neu'n ei datrys drwy ddyfarnwr annibynnol
  • rydych chi'n mynd drwy fethdaliad ar hyn o bryd, neu mae eich cwmni'n dirwyn i ben

Ni fydd y llys yn derbyn y rhesymau canlynol:

  • rydych chi'n anghytuno â'ch band Treth y Cyngor: Rhaid i chi apelio yn erbyn hyn ar wahân drwy Asiantaeth y Swyddfa Brisio
  • rydych chi wedi talu am y ddyled ond ddim am gostau’r llys Rhaid i chi dalu’r balans yn llawn gan gynnwys y costau
  • rydych chi'n anghytuno â swm y ffi, neu'n meddwl y dylech chi fod â hawl i ostyngiad neu eithriad: Rhaid i chi apelio yn erbyn y materion hyn drwy Dribiwnlys Prisio Cymru
  • ni wnaethoch gytuno i dalu nac arwyddo contract: Does dim angen i chi roi caniatâd nac arwyddo contract i fod yn gyfreithiol gyfrifol am Dreth y Cyngor.

Os yw'r llys eisoes wedi rhoi Gorchymyn Dyled ac yr hoffech ei herio, cysylltwch â ni ar unwaith. Gallwch hefyd gael cymorth annibynnol am ddim gan Gyngor ar Bopeth, cyfreithiwr, neu elusen gofrestredig sy’n cynnig cyngor ar ddyledion.

Efallai y byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer chwiliadau credyd i gadarnhau eich gallu i dalu, olrhain eich cyfeiriad diweddaraf a nodi unrhyw fregusrwydd posibl.

Cytundeb Tâl – Incwm a Gwariant

Gellir gwneud cytundeb tâl yn dibynnu ar eich incwm a’ch gwariant. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, dim ond wedi i wŷs llys gael ei gyhoeddi am ddiffyg taliad Treth y Cyngor y byddem yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich incwm a'ch gwariant. Serch hynny, efallai y byddwn yn gofyn i chi lenwi’r ffurflen hon os oes angen i ni asesu trefniant addas i chi.

Os y sefydlir trefniant talu, sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod yn gwneud yr holl daliadau ar amser gan y gallai methu gwneud hynny arwain at drosglwyddo’r balans i asiantwyr gorfodi ar gyfer ei gasglu.

Rhowch fanylion eich incwm a'ch gwariant

Atafaelu Enillion

Os rhoddir Gorchymyn Atebolrwydd i ni yn eich erbyn am beidio â thalu Treth y Cyngor, efallai y byddwn yn ysgrifennu at eich cyflogwr, gan roi cyfarwyddyd iddynt wneud didyniadau yn uniongyrchol o’ch cyflog. Byddwn bob amser yn ysgrifennu atoch gyda chopi o'r Gorchymyn felly byddwch bob amser yn cael hysbysiad bod hyn yn mynd i ddigwydd.

Mae hon yn ddogfen gyfreithiol y mae’n rhaid i'ch cyflogwr wneud didyniadau yn unol â hi, gall methu â gwneud hynny arwain at ddirwy i’r cyflogwr. Gall cyflogwyr ddidynnu costau gweinyddol o £1 bob tro y gwneir didyniad.

Cysylltwch â ni ar unwaith os ydych chi neu eich gweithiwr yn newid swyddi

Cliciwch ar y tab enillion isod i gael manylion am ba didyniadau y mae'n rhaid eu gwneud o’r cyfanswm tâl net;

Enillion dyddiol
Didyniadau yn seiliedig ar enillion dyddiol
Enillion net Cyfradd didynnu
Dan £16 0
Dros £16 ond nid dros £28 3%
Dros £28 ond nid dros £38 5%
Dros £38 ond nid dros £47 7%
Over £47 ond nid dros £74 12%
Dros £74 ond nid dros £102 17%
Dros £102 17% o’r £102 cyntaf a 50%
o’r swm sy'n weddill
Didyniadau yn seiliedig ar enillion wythnosol
Didyniadau
Enillion net Cyfradd didynnu
Dan £105 0
Dros £105 ond nid dros £190 3%
Dros £190 ond nid dros £260 5%
Dros £260 ond nid dros £320 7%
Dros £320 ond nid dros £505 12%
Dros £505 ond nid dros £715 17%
Dros £715 17% o'r £715 cyntaf a 50% o'r
swm sy'n weddill
Didyniadau yn seiliedig ar enillion misol
Didyniadau
Enillion net Cyfradd didynnu
Dan £430 0
Dros £430 ond nid dros £780 3%
Dros £780 ond nid dros £1,050 5%
Dros £1,050 ond nid dros £1,280 7%
Dros £1,280 ond nid dros £2,010 12%
Dros £2,010 ond nid dros £2,860 17%
Dros £2,860 17% o'r £2,860 cyntaf a 50% o'r
swm sy'n weddill

Mae rhagor o wybodaeth yn y canllaw gorchmynion atafaelu i gyflogwyr
(gwefan allanol)

Asiantau Gorfodi

Gall asiantau gorfodi gael cyfarwyddyd i gasglu treth y cyngor sy'n ddyledus ar ôl i orchymyn atebolrwydd gael ei gyhoeddi. Darganfod mwy am Asiantau Gorfodi.

Sut allaf i apelio penderfyniad a wnaethpwyd gan yr adran dreth gyngor?

Os byddwch yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan yr adran dreth gyngor, dylech gysylltu â’r Tribiwnlys Prisio Cymru (gwefan allanol) a fydd yn gallu darparu cyngor cyffredinol.

Cofiwch y dylid talu’r dreth gyngor tra bydd apêl yn gyfredol.

Sgwrsio gydag ymgynghorydd

Sgwrsio gydag ymgynghorydd ar-lein. Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm. Dydd Gwener: 9:00am tan 4.30pm.