Pwy sy'n gyfrifol am y dreth gyngor?

Y person sy’n byw yn yr eiddo (cyn belled â’u bod dros 18 oed) sy’n atebol am y dreth cyngor fel arfer. Y person sy’n uchaf ar y rhestr isod ddylid eu henwi ar y bil treth cyngor:

  1. Rhydd-ddeiliad preswyl
  2. Lesddeiliad preswyl
  3. Tenant statudol preswyl neu ddiogel
  4. Trwyddedai preswyl
  5. Meddiannydd
  6. Perchennog dibreswyl

Gallwch roi gwybod i ni o newid yn yr eiddo drwy lenwi ein ffurflen ar-lein. 

Roi gwybod am newid cyfeiriad ar-lein

Cyfrifon ar y cyd a sawl cyfrif

Os oes dau neu fwy o bobl â’r un buddiant mewn eiddo yna maen nhw’n gyfartal gyfrifol am y dreth cyngor. Ystyrir fod parau priod neu bobl sy’n byw efo’i gilydd fel cwpl yn gyd-atebol, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw’r un buddiant yn yr eiddo. Cyfrifoldeb dalwyr y cyfrif ydi sicrhau bod y symiau sy’n ddyledus yn cael eu talu; ni allwn ni fod yn ymglymedig ag anghydfod sifil fel talu hanner yr un. Os na thelir y swm sy’n ddyledus, gellir cymryd camau adfer yn erbyn pob daliwr cyfrif.

Sefyllfaoedd lle nad yw’r preswylydd yn atebol am y dreth cyngor

Mae perchennog yn aros yn atebol yn yr achosion canlynol:

  • Mewn tai amlfeddiannaeth – e.e. pobl gyda thenantiaeth ar wahân sy’n rhannu cyfleusterau .
  • Lle mae’r preswylwyr i gyd dan 18 oed – gellir dyfarnu esemptiad dosbarth S.
  • Cartrefi gofal preswyl neu nyrsio, a rhai mathau o hostelau sy’n darparu gofal.

Cysylltwch â ni os ydych chi’n ansicr a ddylech chi fod yn atebol ai peidio.

Sgwrsio gydag ymgynghorydd

Sgwrsio gydag ymgynghorydd ar-lein. Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm. Dydd Gwener: 9:00am tan 4.30pm.