Talu treth cyngor

Mae yna nifer o ffyrdd i dalu ond bydd arnoch angen rhif cyfeirnod Treth Cyngor. Mae’r rhif yma’n naw digid, yn dechrau gydag un ac mae i’w weld yng nghornel dde uchaf unrhyw ohebiaeth a anfonir gan yr adran dreth cyngor. 

Pan fyddwch yn talu efo arian parod/cerdyn/siec, dylech dalu cyn neu ar y dyddiadau a nodir ar eich bil. Gall methu â gwneud hynny olygu camau adfer yn eich erbyn. 

Arlein

Os oes gennych eich rhif cyfeirnod, gallwch wneud taliad arlein gan ddefnyddio eich cerdyn debyd/credyd. Rydym yn derbyn y cardiau canlynol:

  • Visa Credit
  • Visa Debit 
  • UK Maestro 
  • International Maestro 
  • Mastercard 
  • Solo 
  • Electron
  • JCB 

Gwneud taliad arlein

Debyd uniongyrchol

Mae talu drwy ddebyd uniongyrchol yn saff ac yn hawdd. Gallwch ddewis un o bedwar dyddiad i dalu: 4ydd, 15fed, 22ain neu’r 30ain.

Sylwch fod taliadau misol NAD ydyn nhw’n rhai debyd uniongyrchol i’w talu ar y 5ed fel rheol.

Sefydlu Debyd Uniongyrchol i dalu treth y cyngor

Fel arall Gallwch drefnu talu trwy Ddebyd Uniongyrchol dros y ffôn gyda’n tîm treth y cyngor.

Cerdyn debyd/credyd

Gellir gwneud taliadau cerdyn debyd/credyd gan ddefnyddio eich rhif cyfeirnod mewn Siop Un Alwad, neu ar y ffôn ar y lein dalu awtomataidd 24 awr ar 
0300 4562 499. 

Arian parod/siec

Gallwch dalu ag arian parod yn unrhyw Siop Un Alwad yn Sir Ddinbych. Dim ond eich rhif cyfeirnod fydd ei angen arnoch chi. 

Gallwch dalu ag arian parod mewn swyddfa bost neu bwynt talu (gwefan allanol) gan ddefnyddio’r cod bar ar eich bil.

Dylid gwneud sieciau’n daladwy i Gyngor Sir Ddinbych gyda rhif eich cyfeirnod ar y cefn a’u hanfon at yr Siop Un Alwad Y Rhyl, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl, LL18 3AA.

Archeb Sefydlog

Gallwch drefnu archeb sefydlog efo’ch banc gan ddefnyddio cod didoli a rhif cyfrif. Trefnwch i’r taliad gael ei anfon 5 ddiwrnod cyn y dyddiad y bydd eich rhandaliad yn ddyledus, os gwelwch yn dda i ganiatáu digon o amser i’r taliad gyrraedd eich cyfrif.

Ein manylion ydi; 

  • Cod didoli: 54-41-06 
  • Rhif y cyfrif: 22837469

Payzone

Payzone - Fy nghymdogaeth (gwefan allanol)

Sgwrsio gydag ymgynghorydd

Sgwrsio gydag ymgynghorydd ar-lein. Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm. Dydd Gwener: 9:00am tan 4.30pm.