Datganiadau dros dro

Mae datganiad dros dro ar gyfer eiddo rydych chi’n bwriadu iddo ddod yn eiddo trwyddedig ond nad ydych chi eto wedi ei adeiladu neu ei addasu. Mae hyn yn rhoi syniad i chi p’un ai yw’ch busnes arfaethedig yn hyfyw neu beidio cyn i chi fuddsoddi symiau aruthrol o arian.

Bydd angen datganiad dros dro arnoch chi os ydych chi’n bwriadu cynnal gweithgareddau trwyddedig yn eich eiddo, gan gynnwys: 

  • gwerthu alcohol drwy fân werthu
  • gwerthu bwyd poeth a diod rhwng 11pm a 5am 
  • darparu adloniant wedi ei reoleiddio, gan gynnwys: 

Os yw datganiad dros dro yn cael ei roi, bydd gofyn i chi ymgeisio am drwydded eiddo ar ôl i’r gwaith adeiladu / addasu ddod i ben.

Sut ydw i’n gwneud cais am ddatganiad dros dro?

Gallwch wneud cais am ddatganiad dros dro ar-lein.

Gwneud cais am ddatganiad dros dro ar-lein (gwefan allanol)

Pan rydych chi’n ymgeisio, bydd arnoch chi hefyd angen darparu cynllun o’r gwaith.

Faint mae’n costio?

Mae’n rhaid talu ffi o £315 i ymgeisio am ddatganiad dros dro.