Rhybudd o ddigwyddiad dros dro
Mae’n rhaid i chi ymgeisio am rybudd o ddigwyddiad dros dro (TEN) os oes arnoch chi eisiau cynnal digwyddiad arbennig, fel cyngerdd neu barti stryd, lle byddwch chi’n:
Mae'n rhaid i chi hefyd wirio:
- os oes angen arnoch ganiatâd arall, megis caniatâd gan berchennog y tir i ddefnyddio’r safle.
- os oes cyfyngiadau eraill, megis cyfyngiadau ar ganiatâd cynllunio neu gyfyngiadau ar eich prydles.
- ni fydd y Rhybudd Digwyddiad Dros Dro yn diystyru’r caniatâd yma ac mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio gyda phob cyfyngiad.
Sut ydw i'n gwneud cais?
I wneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro:
- Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf
- Mae’n rhaid i chi wneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro safonol dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith clir cyn y digwyddiad.
- Mae hi’n bosibl gwneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro ddim hwyrach na 5 diwrnod gwaith clir cyn y digwyddiad, ond ni fydd modd i chi apelio yn erbyn y penderfyniad os caiff eich cais hwyr ei wrthod.
Nid yw diwrnodau gwaith clir yn cynnwys y diwrnod yr ydym yn cael eich cais NA diwrnod y digwyddiad.
Byddwch angen cyfrif ar-lein PP Cymru i wneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro.
Nid yw’r system Gwarchod y Cyhoedd (GyC) Cymru ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn disgwyl y bydd system newydd ar gael o’r wythnos yn dechrau ar 23 Mawrth 2026.
Byddwn ychwanegu gwybodaeth fanylach pan fyddwn yn gallu. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Faint mae'n costio?
Mae’n costio £21 i wneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro safonol a hwyr.
Pan fyddwch chi’n ymgeisio ar-lein byddwch yn talu ar-lein yn defnyddio’ch cerdyn debyd neu gredyd.
Gwybodaeth ddefnyddiol
- Cadwch eich Rhybudd Digwyddiad Dros Dro mewn man diogel yn y digwyddiad.
- Mae'n rhaid i chi arddangos copi o’r Rhybudd Digwyddiad Dros Dro mewn man amlwg yn yr eiddo.
Os ydych chi’n gwneud cais ar-lein fe fyddwn i’n anfon copi o’ch Rhybudd ymlaen at yr Awdurdodau Cyfrifol ar eich rhan.
Os ydych chi’n gwneud cais drwy’r post, mae’n rhaid i chi anfon copi o’r Rhybudd i Awdurdod Trwyddedu Cyngor Sir Ddinbych, Iechyd Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru.
Deddfwriaeth
Deddf Trwyddedu 2003 (gwefan allanol).