Trosglwyddo trwydded eiddo
I drosglwyddodd trwydded eiddo o’r daliwr presennol i’ch dwylo chi, mae’n rhaid i chi wneud cais ffurfiol i ddiwygio’r drwydded.
Sut ydw i’n gwneud cais?
Gallwch drosglwyddo trwydded eiddo drwy wneud cais ar-lein.
Gwneud cais ar-lein i drosglwyddo trwydded (gwefan allanol)
Faint mae’n costio?
Mae trosglwyddo trwydded eiddo yn costio £23.
Sut y gallaf dalu?
Gallwch dalu gyda cherdyn dros y ffôn neu wyneb yn wyneb (drwy drefnu ymlaen llaw) yn swyddfeydd Caledfryn. Dim ond yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych y gallwch chi dalu drwy siec neu arian parod. Cysylltwch â ni i gael y cyfeirnod priodol cyn ceisio talu. Gallai methu â darparu’r cyfeirnod priodol olygu oedi gyda’ch cais.
Peiriannau gamblo
Sylwer - os oes peiriannau gamblo yn yr eiddo, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni fod gennych chi rai pan rydych chi’n gwneud cais i drosglwyddo trwydded eiddo. Mwy o wybodaeth am beiriannau gamblo.
Mwy wybodaeth
Rydym yn argymell eich bod yn darllen drwy ein Polisi Datganiad Trwyddedu.
Polisi Datganiad Trwyddedu (PDF, 796KB)