Gellir cael cyfleusterau gamblo mewn eiddo trwyddedig , gan gynnwys:
- eiddo bingo
- eiddo betio (gan gynnwys traciau)
- canolfannau hapchwarae oedolion
- canolfannau adloniant teuluol
Nid ydym ni’n derbyn ceisiadau trwyddedau eiddo gamblo ar gyfer casinos.
Rydym yn argymell eich bod yn darllen drwy ein Datganiad Polisi Hapchwarae
Datganiad Polisi Hapchwarae (PDF, 726KB)
Sut ydw i'n gwneud cais am y drwydded?
I wneud cais am drwydded eiddo gamblo, efallai y bydd arnoch chi angen trwydded gweithredwr a thrwydded bersonol gan y Comisiwn Gamblo.
Darganfyddwch fwy am y trwyddedau y gallai fod eu hangen arnoch ar wefan y Comisiwn Hapchwarae (gwefan allanol)
Cwblhewch Cais am drwydded safle dan Ddeddf Hapchwarae, a’i dychwelyd atom ynghyd â chynllun o’r eiddo a siec am y ffi gywir.
Cais am drwydded safle dan Ddeddf Hapchwarae (PDF, 215KB)
Anfonwch eich cais i:
Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwalad
Caledfryn
Ffordd y Ffair
Dinbych
Sir Ddinbych
LL16 3RJ
Bydd gofyn i chi hefyd:
- anfon hysbysiad o gais at yr holl Awdurdodau Cyfrifol o fewn 7 diwrnod o wneud eich cais.
- cyhoeddi hysbysiad o gais rhagnodedig mewn papur newydd lleol o fewn 10 niwrnod gwaith o wneud eich cais.
- cyhoeddi’r un hysbysiad o gais rhagnodedig ar ffenestr yr eiddo, lle gall y cyhoedd ei ddarllen o’r tu allan. Mae’n rhaid i’r hysbysiad aros yno am 28 diwrnod, yn dechrau o’r diwrnod y gwnaethpwyd y cais.
Faint mae’n costio?
Mae ffioedd ymgeisio a ffioedd cynnal a chadw blynyddol yn dibynnu ar y drwydded. Edrychwch ar y rhestr i weld y ffi debygol y bydd yn rhaid i chi dalu.
Ffioedd hawlenni gamblo (PDF, 74KB)
Dylid gwneud sieciau’n daladwy i Gyngor Sir Ddinbych.
Sut y gallaf dalu?
Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig. Cysylltwch â ni i gael y cyfeirnod priodol cyn ceisio talu. Gall methu â darparu’r cyfeirnod priodol achosi oedi gyda’ch cais