Casgliadau elusennol

Mae’n rhaid cael trwydded gennym ni i gynnal casgliadau elusennol.

Y rheswm am hyn yw mai casglu arian yw un o brif ddylanwadau canfyddiad y cyhoedd o elusennau, a’r dulliau sy’n cael eu defnyddio ac mae gonestrwydd casglu arian yn hanfodol i ymddiriedaeth y cyhoedd.

Casgliadau ar y stryd

Os ydych am gasglu arian neu werthu eitemau ar y stryd ar gyfer elusen, bydd yn rhaid i chi gael trwydded casglu ar y stryd.

Mae nifer yn camddeall ac yn meddwl nad oes angen trwydded os ydych yn casglu arian ar eiddo preifat. Mae’n rhaid cael trwydded casglu ar y stryd os nad oes rhwystr mynediad i’r cyhoedd at yr ardal yr ydych yn casglu ynddo. Mae hyn yn cynnwys mannau cyhoeddus megis parciau a drysau siopau.

Dim ond un casgliad ar y stryd sy’n cael ei gynnal ymhob tref neu gymuned bob wythnos. Dim ond un casgliad y caiff cymdeithasau ei wneud ym mhob tref/cymuned mewn cyfnod o ddeuddeg mis.

Awgrymwn eich bod yn cysylltu â ni yn uniongyrchol ar 01824 706342 i neilltuo dyddiad i gynnal eich casgliad, cyn i chi wneud cais am drwydded casglu ar y stryd.

Sut ydw i’n gwneud cais am y drwydded?

Y dull cyflymaf a’r rhwyddaf o gael trwydded casglu ar y stryd yw gwneud cais ar-lein.

Gwneud cais ar-lein am trwydded casgliadau ar y stryd (gwefan allanol)

Onid ydym wedi rhoi trwydded casglu ar y stryd i’ch sefydliad yn flaenorol, mae’n rhaid i chi ddarparu’r dogfennau canlynol gyda’ch ffurflen gais:

  • copi o gyfansoddiad y sefydliad
  • copi o gyfrifon archwiliedig diweddaraf y sefydliad 
  • manylion unrhyw gasgliadau blaenorol a gynhaliwyd gan y sefydliad (os oes rhai)

Mae’n rhaid gwneud cais am drwydded o leiaf un mis cyn dyddiad y casgliad.

Faint mae’n ei gostio?

Nid oes cost am drwydded casgliadau ar y stryd.

Ffurflenni enillion

Ar ôl i chi gynnal y casgliad ar y stryd, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen enillion. Mae’r ffurflen yn nodi manylion y rhai oedd yn cymryd rhan yn y casgliad, cyfanswm yr arian a gasglwyd, ac unrhyw dreuliau.

Ffurflen enillion casgliadau ar y stryd (PDF, 50KB)

Wedi i chi gwblhau’r ffurflen, anfonwch y ffurflen i:

Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwalad
Caledfryn
Ffordd y Ffair
Dinbych
Sir Ddinbych
LL16 3RJ

Casgliadau drws i ddrws

Os ydych yn dymuno casglu arian neu nwyddau (a’ch bod am werthu’r nwyddau hyn ymhellach ymlaen) o dai pobl ar gyfer elusen, mae’n rhaid i chi wneud cais am drwydded.

Mae’n rhaid i chi wneud cais am drwydded os ydych yn elusen neu’n grŵp cymunedol bychan, megis sgowtiaid neu geid.

Onid ydych yn gwneud cais am drwydded cyn dechrau casglu, gallwch wynebu dirwy o hyd at £1,000 a hyd at 6 mis yn y carchar.

Sut ydw i’n gwneud cais am y drwydded?

Y dull cyflymaf a’r rhwyddaf o gael trwydded casglu ar y stryd yw gwneud cais ar-lein.

Gwneud cais ar-lein am trwydded casgliadau drws i ddrws (gwefan allanol)

Mae’n rhaid gwneud cais o leiaf 20 diwrnod gwaith cyn i chi ddechrau casglu.

Mae’n rhaid i chi gynnwys enwau unrhyw un fydd yn casglu ar ran yr elusen neu’r sefydliad. Bydd y rhain yn cael eu hadnabod fel casglwyr awdurdodedig.

Mae’n rhaid i chi gysylltu â ni ymlaen llaw i drefnu amser i gynnal y casgliadau. Cewch gasglu am hyd at bythefnos yn unrhyw dref bob blwyddyn galendr.

Faint mae’n ei gostio?

Nid oes cost am drwydded casgliadau drws i ddrws.

Loterïau Cymdeithasau Bychain

Loteri cymdeithas yw loteri sy’n cael ei hyrwyddo er lles cymdeithas sy’n gwneud gwaith er diben elusennol. Nid oes angen trwydded i redeg loteri cymdeithas fach, ond bydd yn rhaid cofrestru gyda’r cyngor.

Mwy o wybodaeth am gofrestru loteri cymdeithas fach.