Loterïau cymdeithasau bach
Mae loteri cymdeithas yn cael ei hyrwyddo er budd cymdeithas sydd â nodau ac amcanion elusennol. Mae loterïau cymdeithasau yn cefnogi nodau anfasnachol fel annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau diwylliannol. Nid ydyn nhw er budd preifat.
Does dim angen trwydded i redeg loteri cymdeithas fach, ond mae’n rhaid eu cofrestru â’r cyngor. Mae’n rhaid i’r loteri fodloni’r gofynion canlynol:
- rhaid i gyfanswm gwerth yr holl docynnau ar gyfer loteri sengl for yn llai na £20,000
- rhaid i gyfanswm gwerth yr holl loterïau mewn blwyddyn galendr fod yn llai na £250,000.
Os ydych chi'n bwriadu mynd deos y gwerthoedd hyn, mae'n rhaid i chi dderbyn trwydded gan y Comisiwn Gamblo (gwefan allanol).
Sut ydw i'n cofrestru?
Mae rhai achosion lle nad oes angen cofrestru'ch loteri. Felly, cyn i chi gofrestru, gwiriwch a yw eich loteri wedi ei heithrio neu beidio (gwefan allanol).
I gofrestru, cwblhewch y ffurflen gofrestru a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen, ynghyd â:
- copi o gyfrifon y gymdeithas ar gyfer y 12 mis diwethaf
- copi o gyfansoddiad y gymdeithas, os oes gennych chi un
- ffurflen ardystio aelodau wedi ei llofnodi gan 2 aelod o'ch cymdeithas. Gall yr hyrwyddwr fod yn un o'r llofnodwyr hyn.
Ffurflenni
Os oes gennych chi drwydded loteri cymdeithas fach ac arnoch eisiau newid yr hyrwyddwr, cwblhewch y ffurflen a'i hanfon atom ni.
Ffurflen newid yr hyrwyddwr am loterïau cymdeithasau bach (PDF, 530KB)
Faint mae'n costio?
Mae ffi ymgeisio am drwydded loteri cymdeithas fach yn £40. Mae yna hefyd ffi flynyddol o £20.
Ffurflenni elw
Bydd arnoch chi angen cwblhau ffurflen elw ar ôl pob loteri i ddangos yr elw y gwnaethoch a sut rydych chi'n mynd i'w wario. Mae'n rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen atom ni dim hwyrach na 3 mis ar ôl eich loteri. Gallwch anfon y ffurflen hon i'r cyfeiriad ar y ffurflen.
Datganiad yn ymwneud â Loteri Cymdeithas Fach (PDF, 606KB)