Nwyddau ffug

Copïau anawdurdodedig o gynhyrchion ydi nwyddau ffug ac maen nhw’n anghyfreithlon. Maen nhw’n hysbys hefyd mewn iaith slang fel ‘counterfeit', 'pirated' , ‘snides’,replicas, copïau etc. 

Gall cynhyrchion ffug gynnwys

  • dillad
  • miwsig
  • ffilm
  • persawr
  • gemwaith
  • rhannau ceir
  • teiars
  • offer
  • nwyddau trydanol
  • batris
  • theganau plant

Fe all y cynhyrchion hyn ymddangos yn fargen ond fe allech gael eich twyllo i dalu’r pris manwerthu am yr hyn rydych chi’n ei feddwl sy’n eitem ddilys ond sy’n rhywbeth sy’n beryglus. 

Pam na ddylech chi brynu nwyddau ffug

  • Gall y nwyddau fod o ansawdd gwael, yn ddiffygiol ac maen nhw’n aml yn anniogel i’w defnyddio. 
  • Os yw’r nwyddau ffug yn ddiffygiol, fe gewch anhawster â’u dychwelyd neu â chael eich arian yn ôl. 
  • Fe brofwyd bod gwerthiannau nwyddau ffug wedi eu defnyddio i ariannu troseddu cyfundrefnol, fel delio cyffuriau, masnachu mewn pobl a phuteindra. Fe allan nhw hefyd ddarparu incwm ychwanegol sydd heb ei ddatgan i dwyllwyr budd-daliadau. 
  • Os byddwch yn prynu nwyddau ffug, bydd y dyluniwr a’r gwneuthurwr gwreiddiol ar eu colled; gall yr effaith ganlyniadol niweidio manwerthwyr dilys yn ddifrifol ac yn yr achosion gwaethaf, gall olygu colli swyddi. 
  • Ni fydd pobl sy’n gwerthu nwyddau ffug yn talu trethi ar yr hyn y maen nhw’n ei werthu ac eto mae hyn yn effeithio ar yr economi a phawb yn y Deyrnas Unedig.

Sut i’w hadnabod

Gall pris, lle a deunydd pecynnu fod yn ddangosyddion o ran dilysrwydd pethau. Bydd archfarchnadoedd, manwerthwyr adnabyddus a gwefannau nwyddau brand yn llai tebygol o werthu nwyddau ffug. Ond gallai ystod enfawr o gynhyrchion sydd ar werth yn y stryd, mewn siopau a marchnadoedd dros dro, neu ar-lein fod yn ffug. 

Sut allaf i adrodd ffugio?

Gallwch adrodd person sy’n cynhyrchu neu’n gwerthu nwyddau ffug drwy gysylltu â Citizens Advice (gwefan allanol)

Os hoffech chi adrodd rhywun heb roi eich enw, yna gallwch gysylltu’n ddienw â Crimestoppers (gwefan allanol).

Nodau masnach cofrestredig

Caiff nodau masnach cofrestredig eu diogelu gan Ddeddf Nodau Masnach 1994. Mae cymhwyso nod masnach cofrestredig i nwyddau heb ganiatâd perchennog y nod masnach yn anghyfreithlon. 

Bydd Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 yn delio â phroblemau a allai ddigwydd gydag unrhyw waith artistig neu lenyddol fel:

  • llyfrau
  • rhaglenni cyfrifiaduron
  • cerddoriaeth
  • ffilmiau
  • gyfryngau electronig eraill

Gellir torri ar yr hawlfraint os bydd y nwyddau hyn yn cael eu copïo heb ganiatâ perchennog yr hawlfraint. 

Cyngor i fasnachwyr

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd dweud “Wyddwn i ddim” yn amddiffyniad. Mae’n rhaid i chwi wneud ymdrech i sicrhau bod y nwyddau a werthwch chi’n ddilys. 

Gofynnwch i’ch cyflenwr am sicrwydd ysgrifenedig fod y nwyddau’r ydych chi’n eu prynu’n gynnyrch dilys, trwyddedig ac yn cydymffurfio â’r Deddfau uchod. Os na allan nhw roi sicrwydd ysgrifenedig neu os ydyn nhw’n anfodlon gwneud hynny, mae’n rhaid i chi ystyried y gallai’r nwyddau fod yn rhai ffug.

Peidiwch â gwerthu unrhyw gynnyrch yr ydych chi’n amheus ohonyn nhw. Cysylltwch â ni neu berchennog yr hawliau e.e. Disney neu’r BBC i gael mwy o fanylion.

Cyngor masnach

Gallwch ymweld â’n tudalen cyngor masnach i greu a thrawslwytho pecyn gwybodaeth ar sut y gall eich busnes chi gydymffurfio â’r gyfraith.