Masnachwyr ar y stryd

Mae’n rhaid i chi wneud cais am drwydded neu ganiatâd i fasnachu ar y stryd os ydych am werthu nwyddau neu fwyd ar unrhyw stryd, neu unrhyw ardal gyhoeddus.

Eithriadau i’r rheol hon yw gwerthwyr papur newydd neu werthwyr ar rownd. Cysylltwch â ni er mwyn cadarnhau eich bod yn eithriad cyn dechrau masnachu, neu efallai y bydd eich nwyddau yn cael eu hatafaelu a byddwch yn wynebu erlyniad gyda dirwy hyd at £1,000.

Mae masnachu ar y stryd wedi’i wahardd mewn ardaloedd penodol. Gwiriwch y rhestr hon cyn gwneud cais am drwydded.

Masnachu ar y stryd ardaloedd penodol (PDF, 49KB)

Sut ydw i’n gwneud cais?

Er mwyn gwneud cais am ganiatâd masnachu ar y stryd, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen gais a’i dychwelyd atom ni, ynghyd â:

  • map y lleoliad, gyda’r ardal fasnachu arfaethedig wedi’i hamlygu mewn coch 
  • un ddogfen wreiddiol yn cadarnhau pwy ydych chi (e.e. trwydded yrru, pasport, tystysgrif geni) 
  • y ffi briodol

Ffurflen gais am drwydded neu ganiatâd i fasnachu ar y stryd (PDF, 1.6MB)

Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen.

Byddwn yn dychwelyd eich dogfen sy’n cadarnhau pwy ydych chi drwy ddosbarthiad wedi’i gofnodi.

Ni chewch ddechrau masnachu nes eich bod wedi talu’r ffi briodol, ac wedi derbyn caniatâd ysgrifenedig gan y cyngor.

Gellir ildio eich caniatâd drwy ysgrifennu llythyr atom, a’i hanfon i:

Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwalad
Caledfryn
Ffordd y Ffair
Dinbych
Sir Ddinbych
LL16 3RJ

Faint mae’n ei gostio?

Mae’r ffi ar gyfer trwydded masnachu ar y stryd yn dibynnu am ba hyd y mae’r drwydded yn ddilys. Gellir nodi hyn pan fyddwch yn gwneud cais.

HydCost
1 diwrnod  £50 
1 wythnos  £150 
1 mis  £225 
3 mis  £650 
6 mis £1,200
Trwydded flynyddol £2,000

Cysylltwch â ni am wybodaeth ar sut i dalu.

Mwy gwybodaeth

Nid oes raid i sefydliadau elusennol dalu’r ffi. 

Canfod mwy o wybodaeth am gasglu arian neu werthu nwyddau ar y stryd er diben elusen.