Amodau ar gyfer masnachu ar y stryd

Wedi i rywun gael caniatâd i fasnachu ar y stryd, rhaid iddynt ddilyn yr amodau ar gyfer masnachu ar y stryd.

Amodau safonol

Mae’n rhaid i’r masnachwr / masnachwyr yn y caniatâd beidio â:-

  • masnachu y tu allan i’r oriau a diwrnodau a ganiateir yn y caniatâd
  • cyflogi neu ddefnyddio unrhyw un sy’n iau na 17 mlwydd oed mewn cysylltiad â’r masnachu sy’n destun y caniatâd hwn
  • achosi annifyrrwch neu berygl i unrhyw breswylydd neu unigolyn
  • achosi unrhyw rwystr i’r stryd neu i rywun sy’n ei defnyddio
  • defnyddio unrhyw ddull i fwyhau sŵn i gyhoeddi gwerthiant
  • defnyddio unrhyw stondin, bwrdd neu gert, neu rywbeth tebyg, oni bai y cafwyd caniatâd penodol i wneud hynny
  • gwerthu eitemau ar wahân i’r rhai a nodwyd yn y caniatâd.

Amodau eraill

Mae’n bosibl y gosodir amodau perthnasol eraill yn dilyn yr ymgynghoriad.

Caniatâd i fasnachu ar y stryd

Os oes arnoch angen caniatâd i fasnachu ar y stryd, mae’n rhaid i chi ei gael gennym ni cyn dechrau masnachu.

Gwybodaeth am sut i ymgeisio am ganiatâd i fasnachu ar y stryd.

Dirwyon a chosbau

Gellir cymryd camau gorfodi os bydd rhywun yn:

  • masnachu heb ganiatâd i fasnachu ar y stryd neu’r drwydded ofynnol
  • masnachu ar stryd ble mae masnachu wedi’i wahardd
  • peidio â chadw at amodau eu caniatâd masnachu ar y stryd

Gall camau gorfodi gynnwys:

  • atal neu dynnu’r caniatâd i fasnachu ar y stryd neu’r drwydded ofynnol yn ôl
  • dirwyon hyd at £1,000